22 Tachwedd 2024
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn deall pa mor bwysig yw grwpiau cymorth bwydo ar y fron i gymunedau lleol ac rydym am sicrhau ein bod yn darparu'r cymorth iawn yn y lle iawn. Er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud hyn, rydym am siarad â rhieni sy'n byw yn ardal Bae Caerdydd.
Bydd aelodau'r Tîm Iechyd Plant Cymunedol yn:
Oherwydd presenoldeb isel, gwnaeth y Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd atal cymorth i Grŵp Cymorth Bwydo ar y Fron Bae Caerdydd ym mis Gorffennaf, a hoffem siarad â rhieni am ddatblygu grŵp cymorth newydd yn yr ardal sy'n diwallu eich anghenion.
Rydym hefyd wedi gwahodd ein cydweithwyr o'r Rhwydwaith Bwydo ar y Fron yr ydym yn gweithio mewn partneriaeth â nhw i ddarparu'r grwpiau hyn.
Os na allwch ddod i'r cyfarfod, ond yr hoffech roi eich adborth, gallwch gysylltu â ni dros y ffôn 07812495339 neu drwy e-bost: cav.engagement.cav@wales.nhs.uk
Gallwch hefyd gysylltu â’ch tîm Llais lleol i roi adborth a gofyn am gyngor annibynnol: E-bost: Cardiffandvaleenquiries@llaiscymru.org
Rhif ffôn: 02920 750112