Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp cymorth a gweithgaredd iechyd meddwl The Hangout yn agor yn y Barri

25.11.2024

Mae’n bleser gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Platfform gyhoeddi agoriad The Hangout yn y Barri, hwb cymorth iechyd meddwl a lles emosiynol i blant a phobl ifanc.

Mae The Hangout yn y Barri wedi'i leoli yn 3A Tynewydd Road ac mae'n fan lle gall pobl ifanc 11 - 18 oed gael gafael ar gymorth iechyd meddwl, dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli, cwrdd â phobl eraill a chymryd rhan mewn grwpiau a all hybu lles.

Wedi'i ddatblygu mewn partneriaeth â'r elusen iechyd meddwl Platfform, mae The Hangout yn cynnig y gefnogaeth ganlynol:

  • Cymorth galw heibio (ar unrhyw adeg yn ystod oriau agor)
  • Sesiynau wedi'u trefnu gyda'n tîm lles
  • Grwpiau sy'n canolbwyntio ar les
  • Sesiynau gweithgareddau grŵp
  • Cyfleoedd gwirfoddoli

Mae ar agor rhwng 3pm a 9pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 12pm – 6pm ar benwythnosau a gwyliau banc. Mae croeso i blant a phobl ifanc alw heibio i gael cymorth iechyd meddwl a lles emosiynol neu wneud apwyntiad 1:1 os yw'n well ganddynt.

Mae tîm The Hangout yn gweithio'n agos gyda'n gwasanaethau Lles Emosiynol ac Iechyd Meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Mae hyn yn golygu eu bod yn gallu siarad â gwasanaethau eraill i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y gefnogaeth orau gan y bobl iawn ar yr adeg iawn er mwyn sicrhau dull cyfannol ac ategol o ddarparu gofal.

Datblygwyd The Hangout yn y Barri mewn partneriaeth â'r elusen iechyd meddwl Platfform ac mae'n dilyn lansiad llwyddiannus The Hangout yng Nghaerdydd. Ers agor yn 26-28 Ffordd Churchill ym mis Hydref 2023, mae 417 o bobl ifanc wedi manteisio ar The Hangout yng Nghaerdydd sy'n cyfateb i un person newydd bob dydd.

Dywedodd Katie Simpson, Dirprwy Reolwr Cyffredinol Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Rydym yn falch iawn o fod yn agor The Hangout ym Mro Morgannwg mewn partneriaeth â Platfform. Trwy ymestyn y gwasanaeth a chael ail leoliad, bydd mwy o blant a phobl ifanc yn y rhanbarth yn gallu cael mynediad at les emosiynol a chymorth iechyd meddwl pan fydd ei angen arnynt yn ogystal â bod yn rhywle i gael cymorth gan gymheiriaid a chysylltu â nhw.

"Ers agor The Hangout yng Nghaerdydd, rydym wedi gweld yr effaith gadarnhaol sylweddol y mae'r gwasanaeth yn ei chael ar les emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc, ac mae wedi bod yn anhygoel gweld y ddarpariaeth bresennol yn esblygu oherwydd yr adborth a'r gefnogaeth gan bobl ifanc sydd wedi ei defnyddio. 

"Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth i ariannu’r broses o ymestyn The Hangout ac rydym yn llawn cyffro i weld sut mae'r gwasanaeth yn datblygu a sut mae'r rhai sy'n ei ddefnyddio yn ei wneud yn ofod y maent hwy a phobl ifanc eraill wir yn ei werthfawrogi. Edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio â phlant a phobl ifanc a Platfform i barhau i ddatblygu a gwella ein gwasanaethau, gan gydnabod y gallwn gyflawni mwy a darparu gwell gwasanaethau os ydym yn gweithio gyda'n gilydd."

Ychwanegodd Sarah Hamilton, Pennaeth Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc Platfform: "Mae Platfform yn llawn cyffro i allu ymestyn prosiect The Hangout i'r Barri ym Mro Morgannwg a chynnig y ddarpariaeth sydd eisoes yn hynod lwyddiannus sydd ar gael yng Nghaerdydd.

"Drwy ehangu’r man diogel a gynhyrchwyd ar y cyd i bobl ifanc 11 i 18 oed fanteisio ar gymorth lles galw heibio mewn lleoliad cymunedol lleol, byddwn yn galluogi mwy o bobl ifanc i gael y cymorth sydd ei angen arnynt, pan fydd ei angen arnynt."

Am fwy o wybodaeth am The Hangout, ewch i The Hangout - Platfform

 

 

Dilynwch ni