Bydd miloedd yn fwy o bobl yn derbyn profion sgrinio'r coluddyn gartref yn awtomatig i helpu i achub mwy o fywydau. |
Canser y coluddyn yw un o'r mathau mwyaf cyffredin o ganser, a bydd mwy na 2,000 o bobl yn cael diagnosis bob blwyddyn yng Nghymru. Ond pan gaiff ei ganfod yn gynnar, mae modd trin y canser, a'i wella a bydd y siawns o oroesi yn cynyddu'n sylweddol. O ddydd Mercher 9 Hydref, bydd pobl 50 oed sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru yn cael cynnig prawf hunan-sgrinio am ganser y coluddyn am y tro cyntaf, ac yn cael pecyn sgrinio drwy’r post. Gall sgrinio helpu i ganfod canser y coluddyn cyn i'r symptomau ddechrau. Gall y prawf hefyd ganfod polypau, sef tyfiannau nad ydynt yn ganser, ac yna gellir tynnu’r rhain ac atal canser rhag datblygu yn y lle cyntaf. Dros y tair blynedd diwethaf, mae’r oedran cymwys ar gyfer profion sgrinio ar gyfer canser y coluddyn wedi cael ei ostwng yng Nghymru, yn unol â’r argymhellion gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU. Mae dod â’r oedran cymwys ar gyfer sgrinio i lawr wedi helpu i ganfod mwy o achosion o ganserau’r coluddyn, a hynny yn gynharach. Mae'r broses sgrinio yn cynnwys prawf imiwnocemegol ysgarthol (FIT) hawdd ei ddefnyddio, sydd â sensitifrwydd cynyddol ac sy'n gallu canfod canser y coluddyn yn well – gan helpu i gynyddu'r nifer sy'n manteisio ar brawf sgrinio yn y garfan bresennol o ddynion a menywod 51-74 oed. Daw’r rhaglen sgrinio ar gyfer pobl 50 oed i rym yn llawn yn raddol dros y 12 mis nesaf. Dywedodd Pennaeth Sgrinio'r Coluddyn Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, Steve Court: "Rydym yn falch iawn fod rhaglen Sgrinio'r Coluddyn Cymru yn cael ei ehangu i gynnwys pobl rhwng 50 a 74 oed.
Dywedodd Gerard McMahon, Pennaeth Polisi a Dylanwadu (Gwledydd Datganoledig) Bowel Cancer UK: "Mae'n wych ein bod yn parhau i weld cynnydd o ran optimeiddio rhaglen sgrinio'r coluddyn Cymru. Rydym wedi ymgyrchu ers tro dros ostwng yr oedran sgrinio i 50, felly mae'n garreg filltir enfawr i ni weld hyn ar waith.
|