Neidio i'r prif gynnwy

Gorsaf radio gwirfoddolwyr sydd wedi ennill gwobrau yng nghalon yr ysbyty

6 Mehefin 2024

Yn cael ei redeg yn gyfan gwbl gan dîm o wirfoddolwyr ymroddedig, mae Radio Ysbyty Morgannwg wedi cael ei enwi'n un o'r tair gorsaf radio ysbyty orau yn y DU am yr ail flwyddyn yn olynol. Mae'r orsaf yn darlledu 24/7 o galon Ysbyty Athrofaol Cymru.

Yng Ngwobrau’r Gymdeithas Ddarlledu Ysbytai Cenedlaethol ym mis Ebrill, derbyniodd Radio Ysbyty Morgannwg y wobr efydd yng nghategori 'Gorsaf y Flwyddyn', gyda'r beirniaid yn nodi, “bod y cais yn llawn eiliadau cynnes, hyfryd — yn arddangos popeth sy'n wych am radio ysbyty.”

Dywedodd Cadeirydd Radio Ysbyty Morgannwg, Jamie Pritchard (yn y llun uchod): “Mae hon yn gamp anhygoel i'r tîm cyfan ac yn gwobrwyo'r gwaith caled sy'n cael ei wneud ar yr orsaf bob wythnos”

Mae Jamie wedi bod yn gwirfoddoli gyda'r orsaf radio ers ei fod yn 12 oed. 21 mlynedd yn ddiweddarach mae'n arwain tîm o tua 40 o wirfoddolwyr sy'n rhoi o’u hamser i ddiddanu a chodi ysbryd cleifion, staff, a'r gymuned ehangach.

“Arhosais yma drwy fy mlynyddoedd yn yr ysgol, drwy fy mlynyddoedd yn y brifysgol, ac yn 2019 deuthum yn Gadeirydd y sefydliad. Nid wyf erioed wedi gadael! Rydw i wrth fy modd yma!”

Roedd bod yn rhan o radio ysbyty wedi helpu Jamie i gyflawni ei freuddwyd plentyndod o fod yn gyflwynydd ar orsafoedd radio masnachol ledled y wlad a chyflwyno bwletinau Traffig a Theithio ar gyfer BBC Radio Wales a Smooth Radio. “Oni bai am yr orsaf fendigedig hon, ni fyddwn wedi cael y sgiliau i gael yr yrfa honno.”

Er gwaethaf ei flynyddoedd lawer o wasanaeth, ni all Jamie honni mai ef yw'r gwirfoddolwr sydd wedi gwasanaethu hiraf. Treuliodd y diweddar Karlo King 41 mlynedd yn Ysbyty Radio Morgannwg hyd nes ei farwolaeth yn 2019, ac mae'r cyn-gadeirydd Simon Field wedi bod yn gwirfoddoli i'r orsaf ers 40 mlynedd. Mae'r cyflwynydd hirsefydlog ar nos Sul, John Webber, a ddathlodd ei ben-blwydd yn 95 oed yn ddiweddar, yn un o dri gwirfoddolwr arall sydd wedi bod gyda'r orsaf ers chwarter canrif.

 
Dilynwch ni