Neidio i'r prif gynnwy

Gorffennaf Di-Blastig

Plastic Free July Graphic

12 Gorffennaf 2021

Beth yw Gorffennaf Di-blastig?

Yma yn BIP Caerdydd a’r Fro, rydym yn cymryd rhan yn y digwyddiad Gorffennaf Di-blastig, sef ymgyrch fyd-eang flynyddol sy’n cael ei chefnogi gan gymunedau dros y byd, mewn ymgais i leihau’r defnydd o blastig.

Nod yr ymgyrch sy’n para mis, yw annog pobl i leihau faint o blastig maent yn ei ddefnyddio yn ystod mis Gorffennaf, yn y gobaith y bydd yn arwain at newid mewn diwylliant yn y gweithle, ac yn ei dro, yn newid y ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau bob dydd.

I gymryd rhan yn yr ymgyrch, caiff pobl eu hannog i osgoi defnyddio cynhyrchion plastig gymaint ag y gallant. Gall hyn gynnwys dod â’ch potel amldro i’r gwaith, newid o gynhyrchion â deunydd pecynnu plastig i’r rhai sy’n defnyddio deunydd pecynnu papur. Mae’r ymgyrch Gorffennaf Di-blastig yn addysgu pobl am y mathau amrywiol o blastig sy’n bodoli, yn ogystal â darparu gwybodaeth am y ffyrdd y gellir eu hailgylchu.

Effeithiau Niweidiol Plastig

Mae plastig yn niweidiol tu hwnt i’r amgylchedd. Mae hyn yn bennaf oherwydd nad yw’n fioddiraddiadwy, sy’n golygu nad yw’n chwalu’n llwyr pan gaiff ei waredu. Pan fydd plastig yn cyrraedd safleoedd tirlenwi, mae maint sylweddol y plastig, ynghyd â’r ffaith na ellir ei chwalu’n llwyr, yn golygu bod y safle tirlenwi’n gorlifo, gan arwain at ddinistrio cynefinoedd, a llygredd. Yn ei dro, caiff gronynnau plastig bach eu gadael ar ôl i’w llyncu gan anifeiliaid fferm, neu bysgod - gall hyd yn oed fynd i mewn i’n bwyd yn y pen draw!

Yma yn BIP Caerdydd a’r Fro, rydym yn frwdfrydig dros yr amgylchedd a diogelu’r tir lle rydym yn byw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, felly mae’n bwysig nawr yn fwy nag erioed ein bod yn ceisio dileu’r defnydd o blastigau untro (caiff 50% o’r plastig a ddefnyddiwn, ei ddefnyddio unwaith yn unig cyn cael ei daflu) er mwyn gwarchod yr amgylchedd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg a’r cyffiniau. Ni ellir adnewyddu plastig ac nid yw’n gynaliadwy, er ei fod yn cael ei ddefnyddio ar gyfer bron popeth, yn cynnwys bagiau, gwellt yfed, deunydd pecynnu bwyd a photeli dŵr.

Mae’r broses o gynhyrchu plastig yn cynyddu ar raddfa syfrdanol, gyda dros 99% o blastigau yn cael eu cynhyrchu o gemegau niweidiol sy’n deillio o olew, nwy naturiol a glo. Wyddoch chi fod plastig ond wedi cael ei ddefnyddio ers 1907, ac mae’r holl blastig yn dal i fod ar y ddaear!

Mae hyn yn dangos, er bod ymwybyddiaeth o’r pwnc hwn yn cynyddu, ei bod yn hanfodol bod pobl yn cael eu haddysgu a’u hatgoffa o effeithiau niweidiol defnyddio plastig, yn ogystal â phwysigrwydd gwneud y newidiadau hyn.

Ffeithiau hwyl am blastig

Mae rhai ffeithiau cadarnhaol am y defnydd o blastig sy’n dangos ein bod yn dechrau gwneud y dewisiadau iawn:

  • Mae’r gyfradd ailgylchu ar gyfer poteli yfed plastig yn y DU oddeutu 74%
  • Mae rhai cwpanau a photeli yn cael eu tyfu o lysiau bellach - sy’n golygu eu bod yn fwy ecogyfeillgar a chynaliadwy
  • Mae llawer o wledydd dros y byd wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio bagiau a gwellt yfed plastig, ac mae mesurau amgen wedi’u cyflwyno, megis siopau yn codi tâl am fagiau plastig
  • Mae McDonalds a Starbucks ymhlith y cwmnïau corfforaethol niferus sydd wedi gwahardd gwellt yfed plastig

Mae llawer o bethau gwych eraill wedi’u cyflawni, ac mae llawer mwy ar y gweill, sydd oll yn helpu yn ein cenhadaeth i leihau’r defnydd o blastig. Yn BIP Caerdydd a’r Fro mae gennyn lawer o fentrau wedi’u cynllunio i helpu i symud tuag at weithlu mwy cynaliadwy, felly cadwch lygad ar ein gwefan a’n sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol i gael ragor o wybodaeth.

Ffyrdd hawdd o leihau eich defnydd o blastig

  • Ewch â’ch bagiau siopa amldro eich hun i’r siop
  • Gwrthodwch ddefnyddio gwellt yfed plastig a defnyddiwch rai papur yn lle hynny
  • Lleihau. Ailddefnyddio. Ailgylchu.
  • Defnyddiwch far sebon yn lle hylif sebon
  • Cadwch eich llestri bwyd amldro eich hun yn y gwaith
  • Hyrwyddwch Gorffennaf Di-blastig yn eich gweithle

Mae llwyth o bethau y gallwch eu gwneud i helpu i leihau faint o wastraff plastig sy’n cael ei gynhyrchu. Gall hyn fod naill ai yn y gwaith neu gartref, waeth pa mor fawr neu fach, mae pob newid bach yn helpu yn y genhadaeth i ddod yn fwy cynaliadwy ac ecogyfeillgar.

Meddyliwch am ffyrdd y gallwch gyfrannu, ac mae digon o ffeithiau defnyddiol a gwybodaeth hanfodol ar gael yn https://www.plasticfreejuly.org

Ewch ati i ailddefnyddio ar ein safleoedd ysbyty

Fel rhan o brosiect parhaus a ariennir gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, mae gorsafoedd ail-lenwi dŵr wedi’u gosod yn Ysbyty’r Barri, Ysbyty Dewi Sant ac yn Adain Glan-y-Llyn yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Mae’r ddwy orsaf ail-lenwi hyn wedi’u cysylltu ag ap y cynllun Refill, sy’n galluogi ein cymuned leol i lenwi eu poteli dŵr amldro am ddim. Mae’r gorsafoedd ail-lenwi hyn yn rhan o brosiect parhaus i annog ein staff a’n cymuned i ddewis ailddefnyddio, ac mae cynlluniau i osod saith gorsaf ail-lenwi bellach ar draws ein safleoedd. Caiff y gorsafoedd ail-lenwi hyn eu gosod yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, un yng Nghanolfan newydd Llandochau ar gyfer Adsefydlu Arbenigol yr Asgwrn Cefn a Niwro yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, yn ogystal â Chanolfan y Fron yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Plastigau wrth ddarparu gofal iechyd

Defnyddir llawer o blastigau untro wrth ddarparu gofal iechyd. Yma yn BIP Caerdydd a’r Fro rydym am fynd i’r afael â hyn drwy newid i ddefnyddio cynnyrch a dyfeisiau amldro. Er mwyn i ni edrych ar ffyrdd o wneud hyn, byddai’n fuddiol ein bod yn cael gwybod am unrhyw gynhyrchion a dyfeisiau sy’n cael eu defnyddio’n llwyddiannus gangydweithwyr mewn systemau iechyd eraill. Os ydych yn gwybod am unrhyw ddatblygiadau diweddaraf neu gynhyrchion a dyfeisiau newydd y credwch y dylai BIP Caerdydd a’r Fro wybod amdanynt er mwyn helpu i wella cynaliadwyedd wrth ddarparu gofal iechyd, cysylltwch â news@wales.nhs.uk, gyda'r llinell bwnc 'Cynaliadwyedd wrth Ddarparu Gofal Iechyd'.

 

12/07/2021

Dilynwch ni