Neidio i'r prif gynnwy

GIG yn dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed

3 Gorffennaf 2023

Ddydd Mercher, 5 Gorffennaf bydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn cyrraedd carreg filltir arwyddocaol wrth ddathlu 75 mlynedd o’i fodolaeth.

I goffáu’r achlysur arbennig hwn, bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cynnal cyfres o weithgareddau hyrwyddo yn ystod yr wythnos; gan dynnu sylw at gyflawniadau allweddol ac anrhydeddu cydweithwyr o’r gorffennol a’r presennol sydd wedi gweithio i’r sefydliad ac wedi cyfrannu at iechyd a lles ein cleifion a’r boblogaeth leol.

Dyma rai enghreifftiau o bethau i edrych ymlaen atynt:

  • Montage fideo yn cynnwys cydweithwyr o bob rhan o’r Bwrdd Iechyd a digrifwr adnabyddus!
  • Bydd 3 côr lleol yn perfformio yn CRI, UHL ac UHW ar ddydd Mercher y 5ed. Ymunwch â Tenovus am 1pm yng Nghapel CRI, ‘Live Music Now’ o 12:30-13:30 yn UHL (y tu allan i Oriel yr Aelwyd) a Phrif Gyntedd UHW, yn ogystal â pherfformiad arbennig ar-lein gan y Military Wives Choir.
  • Lansio tudalen waddol newydd sbon ‘Y GIG Dros y Blynyddoedd’ a fydd yn gartref newydd i oriel ddigidol o luniau wedi’u harchifo yn dyddio’n ôl i 1948.
  • Fideo gyda’r Prif Weithredwr, Suzanne Rankin, a Chadeirydd BIP Caerdydd a’r Fro, Charles Janczewski.
  • Bydd Myfyrwyr Gradd Meistr o Brifysgol De Cymru yn cyflwyno prosiect pwrpasol, ‘Medical Mayhem’, er budd cleifion a staff o fewn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Pobl Hŷn yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.
  • Golwg arbennig ar brosiect Dawns Bywyd (The Dance of Life) Geraint a ddadorchuddiwyd yn ddiweddar yn UHL, ac a gomisiynwyd yn benodol ar gyfer dathliadau’r GIG yn 75.
  • Bydd Donna Crimmins, Prif Nyrs Ward sy’n gweithio ym maes gofal critigol/cymorth anadlu hirdymor yn gwneud darlleniad yn nigwyddiad y GIG yn 75 yn The Church of the Resurrection, Trelái.
  • Bydd Newyddion ITV Cymru yn darlledu’r newyddion 6 o’r gloch o Ysbyty Athrofaol Cymru i nodi’r achlysur.
  • Cyhoeddi enillwyr ‘Enwebu ar gyfer Portread’ ar ddydd Llun y 3ydd.

Beth am ymuno yn yr hwyl ar-lein drwy ryngweithio â’n cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #GIG75 a’n tagio yn eich postiadau ar Twitter neu ddod o hyd i ni ar Facebook i ddangos sut rydych chi’n nodi’r achlysur.

Dilynwch ni