Neidio i'r prif gynnwy

Gardd Gymunedol yng Nghanolfan Iechyd Glan yr Afon sydd ar y rhestr fer ar gyfer gwobr yn ymddangos ar The One Show

Pobl yn plannu yng ngardd gymunedol Canolfan Iechyd Glan yr Afon

6 Tachwedd 2023

Gwnaeth gardd gymunedol Tyfu’n Dda yng Nghanolfan Iechyd Glan yr Afon gael sylw ar The One Show ar y BBC yr wythnos hon, ar ôl cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr ‘Growing Together’ y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS) a’r One Show am arddio cymunedol.

Mae’r ardd yn cael ei defnyddio gan y gymuned leol yng nghanol Glan yr Afon, ac mae popeth yn yr ardd yn adlewyrchu’r hyn y mae pobl leol wedi dweud wrth dîm Tyfu Caerdydd y maent am ei dyfu.

Yn ogystal ag ymwelwyr â Chanolfan Iechyd Glan yr Afon sy’n galw heibio i fwynhau'r ardd, mae meddygon teulu lleol hefyd yn atgyfeirio cleifion yno. 

Dywedodd Rachel, gwirfoddolwr arweiniol yn yr ardd gymunedol: “Roeddwn i’n gaeth gartref, roeddwn i wedi fy ynysu, fy ngorbryder... Allwn i ddim hyd yn oed fynd allan drwy’r drws. 

“Unwaith i’m  meddyg teulu fy atgyfeirio yma, roedd yn teimlo fel hud a lledrith ar unwaith. Rhoddodd hyder i mi, a’r gallu i gredu ynof fi fy hun, fe wnaeth i mi siarad â phobl na allwn i erioed fod wedi’i wneud o'r blaen.

“Fe achubodd fy mywyd, a dweud y gwir.”

Mae Tyfu’n Dda wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ag Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gyda chyllid gan NHS Charities Together ers 2021, ac mae eu prosiect presgripsiynu cymdeithasol wedi bod yn llwyddiant ysgubol.



Llongyfarchiadau i dîm Tyfu’n Dda, Tyfu Caerdydd, a chydweithwyr yng Nghanolfan Iechyd Glan yr Afon ar gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr. 

Gwyliwch y darn yma BBC iPlayer - The One Show - 23/10/2023 (ymddangos o 12:48 - 15:00).

Dilynwch ni