1 Rhagfyr 2022
Ar draws y DU, mae galw sylweddol ar Wasanaethau Gofal Dwys Plant ac, o ganlyniad, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn wynebu pwysau am welyau o fewn ei Uned Gofal Dwys Pediatrig (PICU). Mae hyn yn sgil cynnydd yn nifer yr achosion o salwch anadlol feirysol ymhlith plant sy’n arwain at gynnydd yn nifer y plant sydd angen triniaeth o fewn gofal critigol.
Er mwyn sicrhau bod ein cleifion mwyaf sâl yn derbyn gofal diogel priodol, bydd gofyn i’n timau clinigol wneud rhai penderfyniadau anodd yn ystod yr wythnosau nesaf a allai gynnwys canslo llawdriniaethau dewisol a throsglwyddo plant sy’n ddifrifol wael i unedau eraill yn y DU.
Mae ein timau yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gynnal capasiti ond mae rhoi blaenoriaeth i ddiogelu’r plant mwyaf sâl o fewn Ysbyty Plant Cymru yn hollbwysig. Efallai y bydd angen i ni ganslo mwy o driniaethau nag yr hoffem er mwyn parhau i drin pob plentyn sâl sydd angen cymorth gofal critigol ar yr adeg hon. Bydd pob penderfyniad yn cael ei wneud ar sail glinigol unigol ac rydym yn ymddiheuro am unrhyw bryder y gallai cleifion a’u teuluoedd ei brofi os caiff eu triniaeth ei gohirio.
Yn anffodus, nid yw’r sefyllfa hon yn unigryw i Gymru ac mae Unedau Gofal Dwys Pediatrig ym mhob rhan o’r DU yn wynebu galw uchel ynghyd â heriau o ran y gweithlu.
Hoffem sicrhau cleifion a’u teuluoedd bod ein timau’n gweithio’n ddiflino i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i’n cleifion, a bydd y penderfyniadau hyn yn cael eu hadolygu’n wythnosol i fonitro capasiti.
Rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth yn ystod y cyfnod heriol hwn.