Neidio i'r prif gynnwy

Gall staff Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro gael mynediad at ffordd fwy cynaliadwy o deithio

Aelodaeth beiciau OVO am ddim ar gyfer dros 1,000 o aelodau o staff.

Fel rhan o bartneriaeth barhaus sydd wedi cael ei ffurfio gan y tîm gweithgaredd corfforol yn y Tîm Iechyd y Cyhoedd Lleol, mae gan y Bwrdd aelodaeth beiciau OVO am ddim ar gyfer dros 1,000 o aelodau o staff. Mae aelodaeth fel hyn yn ffordd wych i’r rheiny sydd yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd a’r Fro i fod yn fwy egnïol yn gorfforol wrth deithio i’r gwaith ac oddi yno, yn ogystal ag annog ffordd fwy cynaliadwy o deithio.

Fel sefydliad, mae’r Bwrdd Iechyd yn angerddol am wella ei effaith ar yr amgylchedd a hybu ffyrdd mwy cynaliadwy o deithio.

Gyda gorsafoedd beiciau OVO ar draws safleoedd y Bwrdd Iechyd, yn cynnwys UHW, UHL, Tŷ Coetir ac ar draws Caerdydd, mae gan staff gyfle i groesawu atebion teithio mwy llesol yn eu bywydau bob dydd, trwy ddefnyddio aelodaeth flynyddol beiciau OVO i deithio i’r gwaith neu ar gyfer hamdden.

Beth mae’r aelodaeth yn ei roi i chi?

  • Taith o awr am ddim ar draws Caerdydd a rhai gorsafoedd ym Mro Morgannwg
  • Mynediad at E-feiciau a rhai nad ydynt yn electronig
  • Teithio cyfleus a chynaliadwy

Sut i gymryd rhan…

Mae cymryd rhan yn hawdd. Yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw sganio’r Côd QR y gellir ei weld ar bosteri ar draws safle’r ysbyty, neu trwy ddilyn y ddolen isod, a llenwi’r Ffurflen MS.

Unwaith byddwch wedi llenwi’r ffurflen byddwch yn cael cadarnhad a’ch côd unigryw i ddechrau ar eich aelodaeth. Byddwch yn gyflym am mai dim ond nifer benodol fydd yn cael cynnig aelodaeth am ddim, felly y cyntaf i’r felin.

 

Ewch i’r ffurflen gais trwy glicio yma.

 

02/03/2022

Dilynwch ni