Neidio i'r prif gynnwy

"Fyddwn i a fy mabi ddim yma heddiw oni bai am y gofal anhygoel a gawsom gan yr uned famolaeth"

Pan ddechreuodd Ceri Richardson, a oedd yn feichiog iawn ar y pryd, ddioddef pen tost ofnadwy yn gynharach y mis hwn, roedd hi'n meddwl i ddechrau bod y sŵn ar ddiwrnod mabolgampau ei mab chwe blwydd oed wedi’i achosi.  

Ond roedd symptomau gwaeth i ddilyn, gan gynnwys poen yn ei hasennau a gwaedu difrifol, felly penderfynodd Ceri fynd i uned famolaeth Ysbyty Athrofaol Cymru ar unwaith.  

Darganfu bydwragedd yn gyflym fod gan y ddynes 34 oed o'r Eglwys Newydd, Caerdydd, gyneclampsia, cyflwr sy’n gallu peryglu bywyd, ac fe wnaeth achosi i bwysedd gwaed Ceri godi’n eithafol.  

Gwnaeth y bydwragedd hefyd ddarganfod fod Ceri wedi dioddef achos o wahanu’r brych, cymhlethdod difrifol sy'n digwydd pan fydd y brych yn gwahanu oddi wrth wal fewnol y groth.  

“Roedd yn frawychus ar y pryd, ond roedd y staff yn wych ac fe wnaethant lwyddo i fy nhawelu,” meddai. “Roedd un o’r bydwragedd yn arbennig mor garedig a gofalgar – fe wnaeth hi ofalu amdana’ i mor dda.  

“Roedd yr anesthetyddion yn anhygoel hefyd. Fe wnaethon nhw egluro popeth a oedd yn digwydd i mi - ac fe wnaethon ni hyd yn oed drafod enwau babis a gwnaeth hyn i fi deimlo’n hollol gartrefol."  

Penderfynwyd mynd â Ceri i’r theatr a chafodd doriad cesaraidd brys. Cafodd ei mab, Benji Richardson, ei eni yn ystod oriau mân y bore, ddydd Iau, 6 Gorffennaf yn pwyso dim ond 4lb 7oz.  

Dywedodd Ceri, a oedd yn ei 35ain wythnos o feichiogrwydd pan gyrhaeddodd Benji y byd, iddi lwyddo i gael cwtsh cyflym iawn gyda'i baban newydd-anedig cyn iddo gael ei gludo i ffwrdd i gael cymorth anadlu ychwanegol.  

Yna cafodd ei symud i'r uned gofal dwys newyddenedigol (NICU) lle cafodd ei fewndiwbio a'i roi o dan olau arbennig i drin ei glefyd melyn.  

“Nid oedd ei ysgyfaint yn ddigon aeddfed. Nid oedd y steroidau a gefais wedi cael digon o amser i weithio oherwydd fy mod wedi cyrraedd yr ysbyty mor gyflym," ychwanegodd Ceri. “Ond wythnos yn ddiweddarach ac maent bellach wedi tynnu ei diwb anadlu. Mae ganddo diwb ar gyfer ei fwyd o hyd, oherwydd nad yw’n awyddus i yfed potel eto.”  

Yn ôl Ceri, does dim digon o ferched yn gwybod am arwyddion a symptomau cyneclampsia. Mae arwyddion cynnar yn cynnwys pwysedd gwaed uchel a phrotein yn yr wrin, ond gall eraill gynnwys chwyddo sydyn yn yr wyneb, dwylo a thraed, pen tost, chwydu, poen o dan yr asennau a phroblemau golwg.  

“Pan gefais y pen tost i ddechrau, roeddwn i'n meddwl ei fod wedi'i achosi gan yr holl blant yn sgrechian ar ddiwrnod mabolgampau fy mab hŷn, felly cymerais ychydig o paracetamol ar gyfer hynny. Ac roeddwn i'n meddwl bod y boen yn fy asennau wedi'i achosi gan y ffordd roedd y babi yn gorwedd y tu mewn i mi,” cyfaddefodd.  

“Wnes i ddim rhoi dau a dau at ei gilydd y gallai fod yn bwysedd gwaed uchel gan ei fod wedi bod mor isel trwy gydol fy meichiogrwydd, ac nid oedd wedi croesi fy meddwl efallai fy mod yn profi cyneclampsia.  

“Ar ôl yr enedigaeth dywedodd y meddyg wrtha i fy mod i wedi bod yn lwcus iawn oherwydd roeddwn i’n gwaedu cymaint fel y gallwn i fod wedi colli fy mywyd – a gallai Benji fod wedi colli ei fywyd yntau.”  

Dywedodd Ceri, a oedd angen dau drallwysiad gwaed ar ôl y toriad cesaraidd, fod Benji bellach wedi dod allan o’r uned gofal dwys a'i fod wedi dod adref ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf.  

“Hoffwn ddweud 'diolch' enfawr wrth y staff. Maen nhw i gyd yn angylion ac maen nhw'n haeddu cymaint o ganmoliaeth. Ni fydd unrhyw eiriau a ddywedaf byth yn ddigon.”  

Os byddwch yn sylwi ar unrhyw arwyddion o gyneclampsia, gofynnwch am gyngor meddygol ar unwaith trwy gysylltu â'r uned famolaeth, practis meddyg teulu neu GIG 111. 

Dilynwch ni