Llongyfarchiadau i’r Tîm Adnoddau Pobl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a enillodd wobr Menter Recriwtio’r Flwyddyn, ac a dderbyniodd wobr Canmoliaeth Uchel am Fenter Amrywiaeth a Chynhwysiant y flwyddyn, yng Ngwobrau Adnoddau Dynol Prydain eleni.
Derbyniwyd y gwobrau ar gyfer y Fframwaith Ehangu Mynediad ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a ddatblygwyd gan Reolwr Recriwtio’r Gweithlu Nicky Punter.
Nod y Fframwaith Ehangu Mynediad yw darparu profiad gwaith a chyfleoedd cyfoethogi i bobl ifanc a’r rhai nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant, i gynyddu eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth o’r ystod eang o gyfleoedd gyrfa o fewn y GIG, i’w hannog i ystyried gyrfa o fewn y GIG ac i’w cefnogi i ddewis y llwybr mynediad cywir ar gyfer eu dewis yrfa.
Ei nod yw sefydlu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro fel sefydliad angori o fewn y gymuned leol i gynyddu’r cyfleoedd cyflogaeth i’r rhai sy’n cael eu tangynrychioli yn y gweithlu.
Mae’r rhain yn cynnwys grwpiau o oedolion ifanc sydd wedi’u magu yn y system ofal, unigolion sydd wedi’u gwneud yn ddigartref, ffoaduriaid, oedolion ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth, y rhai sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd, grwpiau Lleiafrifoedd Ethnig, y rhai ag anableddau a’r rhai sy’n ddi-waith yn yr hirdymor.
Mae’r fframwaith wedi cael effaith aruthrol ar helpu unigolion i gael profiad gwaith a chyflogaeth. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran.
Mae pobl yn ganolog i bopeth a wnawn, a nod Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yw sicrhau bod ein gweithlu’n adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau a wasanaethwn. Dysgwch fwy am ein Strategaeth Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol ar ein gwefan: Hafan - Llunio ein Llesiant i’r Dyfodol.
I ddarganfod mwy am gyfleoedd a mentrau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ewch i’r dudalen we Gyrfaoedd yn y GIG: Gyrfaoedd yn y GIG - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Yn y llun: Rheolwr Recriwtio’r Gweithlu Nicky Punter, a’r Cyfarwyddwr Cynorthwyol Adnoddau Pobl Jonathan Pritchard, yn derbyn gwobrau yng Ngwobrau Adnoddau Dynol Prydain ddydd Mercher 2 Ebrill 2025.