Cafodd Jason Kearle ei brofiad cyntaf o smygu yn 13 oed pan ddechreuodd dynnu un sigarét o becyn ei fam bob dydd cyn mynd i’r ysgol. “Rwy’n ei gofio’n dda. Doeddwn i ddim yn ei hoffi ar y dechrau, ond yna rydych chi’n dod i’r arfer o fod angen un - ac roedd hynny o oedran cynnar iawn,” cofiodd.
“Byddwn i’n mynd allan o’r ysgol gyda fy ffrindiau a’r lle gorau i ddod o hyd i sigaréts oedd safleoedd bws oherwydd byddai pobl yn eu taflu pan fyddai’r bws yn cyrraedd. Byddem yn eu casglu ac yn eu rhoi mewn Rizla.”
Er ei fod yn focsiwr a chwaraewr rygbi dawnus, byddai Jason yn parhau i smygu heb unrhyw bryder am y niwed yr oedd yn ei achosi i’w gorff. “Pan o’n i’n chwarae rygbi, byddai pawb yn cael oren yn ystod hanner amser a byddai gen i sigarét,” meddai gan chwerthin.
Wrth i Jason fynd yn hŷn, daeth smygu yn rhan fwy o’i fywyd. Yn ystod ei gyfnod gwaethaf, roedd yn smygu 20 y dydd a dechreuodd golli teimlad ym mlaen ei fysedd. Daeth y trobwynt go iawn, fodd bynnag, pan ddechreuodd ddioddef gyda phoen yn ei ysgwydd.
Esboniodd y dyn 54 oed o Adamsdown, Caerdydd: “Roedd gan fy mam ganser yr ysgyfaint. Roedd hi’n hollol iawn nes iddi gael poen yn ei phalfeisiau (shoulder blades). Erbyn iddi gael prawf, buodd hi farw o fewn pum wythnos yn 56 oed.
“Felly pan oedd gen i ysgwydd ddrwg fy hun, roeddwn i’n meddwl bod gen i’r un peth â mam. Roeddwn yn gwbl sicr. Mewn ychydig flynyddoedd, bydda i wedi cyrraedd yr oedran y bu hi farw. Dechreuais gael pyliau o banig – roeddwn i’n gwybod bod yn rhaid i fi fynd at y meddyg.”
Ar ôl cofrestru gyda’i feddyg teulu lleol ym mis Mawrth 2023 a llenwi’r ffurflenni angenrheidiol, gwelodd Jason opsiwn i roi’r gorau i smygu. Heb oedi, ticiodd y blwch, ac o fewn wythnos cysylltodd cynghorydd Helpa Fi i Stopio, Cathy Fisher, ag ef i drefnu apwyntiad.
Fel rhan o’r clinigau wythnosol yn y feddygfa, cafodd Jason hefyd amrywiaeth o driniaethau rhoi’r gorau i smygu am ddim gan gynnwys clytiau a chwistrell, a fyddai wedi costio £250 pe bai wedi’u prynu’n breifat.
“Doeddwn i ddim yn meddwl y gallwn i roi’r gorau iddi’n llwyr, roeddwn i’n meddwl y byddai angen i mi leihau nifer y sigaréts yn araf. Ond rhoddodd Cathy anogaeth a chyngor mor wych. Allwn i ddim bod wedi ei wneud hebddi hi.” ychwanegodd. “Fe roddodd chwythydd carbon monocsid i mi ac roedd fy narlleniad cyntaf yn anhygoel o uchel – roedd hynny’n rhybudd yn sicr.”
“Roeddwn i’n edrych ymlaen at fy apwyntiad bob wythnos i chwythu i mewn i’r ddyfais a phrofi iddi nad oeddwn wedi smygu. Roedd yn anodd rhoi’r gorau iddi, ond doeddwn i ddim eisiau smygu mwyach. Roeddwn i’n arfer cuddio fy sigaréts rhag pobl oherwydd roeddwn i’n teimlo embaras. Mae llai a llai o bobl yn smygu y dyddiau hyn.”
Gwyliwch fideo Jason yma:
Mae saith mis wedi bod ers i Jason, cyn-beintiwr ac addurnwr a mecanydd, gael sigarét ac mae wedi adennill y teimlad ym mlaen ei fysedd. Dywedodd fod ei synnwyr blas ac arogl wedi dychwelyd i’r fath raddau ei fod wedi dechrau coginio.
Ar ben hynny, mae gan Jason fwy o arian sbâr i’w wario ar ei bum ci Akita Japaneaidd annwyl, Tokyo, Suzuki, Yoko, Hoshi a Tanabi. “Rwy’n cerdded saith milltir y dydd gyda nhw a dydw i ddim wedi blino erbyn y diwedd. Byddai wedi bod yn frwydr o’r blaen. Fy nghŵn yw popeth i mi,” meddai.
“Os gallaf i roi’r gorau i smygu, gall unrhyw un wneud, oherwydd fi oedd y gwaethaf yn y teulu. Rydw i nawr yn eu hannog i smygu llai hefyd.”
Mae Cathy Fisher yn un o bedwar cynghorydd Helpa Fi i Stopio yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg sy’n darparu gwasanaethau rhoi’r gorau iddi mewn lleoliadau cymunedol naill ai mewn grwpiau neu un i un. I’r rhai sydd â phroblemau symudedd, sy’n sâl neu sy’n gweithio, mae apwyntiadau ffôn ar gael hefyd.
“Mae pobl yn derbyn 12 wythnos o gynhyrchion yn rhad ac am ddim, ond ochr yn ochr â hynny byddant yn cael saith wythnos o gefnogaeth,” esboniodd. “Bydd y person naill ai’n dod i mewn neu’n derbyn galwad ffôn bob wythnos am y saith wythnos hynny, ac am bum wythnos arall rydyn ni’n dal i fod ar ben arall y ffôn os oes angen ychydig o help ychwanegol arnyn nhw.”
Wrth sôn am gynnydd rhyfeddol Jason, ychwanegodd Cathy: “Mae Jason yn hynod ysbrydoledig. Yn ystod yr wythnos gyntaf, esboniodd am ei byliau o banig a’r boen yn ei ysgwydd a oedd wedi newid popeth iddo. Roedd yn benderfynol iawn, ac roedd gweld newid ynddo o fewn wythnos yn hollol wych. Fe gadwodd at bob un o’i apwyntiadau, roedd yn hapus i fod yno ac fe wrandawodd ar yr holl gyngor.
“Er ein bod ni yno fel cynghorwyr i helpu i annog pobl i roi’r gorau i smygu, Jason oedd pia’r penderfyniad i beidio â chodi sigarét bob dydd. Cyhyd â bod pobl yn gweithio ar eu sbardunau a’u cysylltiadau seicolegol â smygu, yn ogystal â defnyddio’r cynhyrchion rydyn ni’n eu rhoi iddyn nhw, yna gallant lwyddo.”
I gael rhestr lawn o wasanaethau rhoi’r gorau i smygu yn lleol, ac i gael gwybod a oes angen i chi drefnu apwyntiad ymlaen llaw, cysylltwch â thîm canolfan gyswllt Helpa Fi i Stopio drwy:
Gall smygwyr hefyd gael eu hatgyfeirio at Helpa Fi i Stopio gan eu meddyg teulu neu nyrs practis, neu os ydynt yn yr ysbyty gallant gael mynediad at wasanaethau a chynhyrchion ar y safle cyn cael eu trosglwyddo yn ôl i’r gymuned. Mae rhai fferyllfeydd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg hefyd yn cynnig cyngor a chynhyrchion Helpa Fi i Stopio.