Ydych chi eisiau cychwyn ar yrfa mewn gofal iechyd ac ennill cyflog wrth ddysgu? Bydd ein Prentisiaeth Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd (HCSW) newydd yn darparu cymysgedd o hyfforddiant a dysgu yn y gwaith a fydd yn arwain at swydd fel HCSW.
Mae Prentisiaeth HCSW yn rôl hyfforddi ffurfiol 18 mis sydd wedi'i chynllunio i roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiad gwaith sydd eu hangen ar brentisiaid i symud ymlaen i rôl HCSW. Gan weithio ochr yn ochr â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol profiadol ac o dan oruchwyliaeth Nyrs Gofrestredig, bydd prentisiaid yn helpu i ddarparu gofal tosturiol o ansawdd uchel i gleifion trwy helpu gyda gofal personol, prydau bwyd a symudedd.
Unwaith y bydd prentisiaid wedi cwblhau eu Prentisiaeth HCSW, dyfernir cymhwyster prentisiaeth lefel 2 iddynt ynghyd â sicrwydd o gael cyfweliad ar gyfer swydd Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd Band 2.
Mae HCSWs yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu gofal i gleifion ac maent yn gweithio mewn ystod o leoliadau fel ysbytai, ymarfer cyffredinol ac fel rhan o dimau cymunedol. Gall y rôl hefyd arwain at amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa cyffrous mewn nyrsio a bydwreigiaeth. I gael rhagor o wybodaeth am Brentisiaeth HCSW ac i wneud cais, cliciwch yma.
Sylwch, os oes gennych gymhwyster gradd yn barod, ni fyddwch yn gallu gwneud cais oherwydd meini prawf cyllido Llywodraeth Cymru ar y cymhwyster lefel 2.