Neidio i'r prif gynnwy

Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II, 1926 - 2022

Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro estyn ei gydymdeimlad dwysaf i'r Teulu Brenhinol ar farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.

Roedd Ei Mawrhydi yn gefnogwr brwd o'r GIG, ein staff, a channoedd o elusennau a sefydliadau sy'n rhan hanfodol o'n systemau gofal.

Ym mis Tachwedd 1971, agorodd y Frenhines Elizabeth Ysbyty Athrofaol Cymru yn ffurfiol a chyfarfu â staff a chleifion. Wrth siarad yn yr agoriad, canmolodd nid yn unig dimau rheng flaen ond y cannoedd ar gannoedd o staff sy'n chwarae rhan hanfodol y tu ôl i'r llenni.

Yn fwy diweddar, gwnaeth Ei Mawrhydi gyflwyno Croes y Brenin Siôr i’r GIG, gan gydnabod cyfraniadau staff dros ei hanes 70 mlynedd – sy'n dyst i gefnogaeth ddiwyro Ei Mawrhydi i'r GIG yn ystod ei theyrnasiad.

Byddwn yn gostwng ein baneri ar draws ein hystâd fel arwydd o barch wrth i ni ymuno â’r genedl i alaru.

Ar ran y Bwrdd a'r holl gydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, diolch i chi EM y Frenhines Elizabeth ll am eich gwasanaeth cyhoeddus rhagorol i'r GIG dros y 70 mlynedd diwethaf.

Charles 'Jan' Janczewski, Cadeirydd

Suzanne Rankin, Prif Weithredwr

 

Dilynwch ni