Neidio i'r prif gynnwy

'Dyma'r safon aur o ran triniaeth yn unrhyw le yn y byd' | Gwyliwch bennod pedwar o Saving Lives in Cardiff ddydd Mawrth yma 

06.09.2024

Bydd pedwaredd bennod Saving Lives in Cardiff yn cael ei darlledu ar BBC One Wales a BBC Two am 9pm ddydd Mawrth yma — gan roi cipolwg ar rai o’r cyflyrau a’r penderfyniadau cymhleth y mae timau llawfeddygol a chydweithwyr yn gorfod eu hwynebu. 

Yn y bennod, mae cydweithwyr yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru dan bwysau yn sgil cynnydd yn nifer yr achosion brys sydd wedi cyrraedd dros y penwythnos ac ar, hyn o bryd, nid oes digon o welyau na nyrsys ar gyfer yr holl blant sydd angen llawdriniaeth. 

Un o’r achosion brys hyn yw Olly, sy’n saith oed, a dorrodd ei goes yn yr ysgol ac a gafodd ei gludo yn yr awyr i’r ysbyty. Mae Olly wedi torri ei forddwyd yn yr un lle unwaith o’r blaen ac mae angen i’r Llawfeddyg Orthopedig Pediatrig Ymgynghorol, Ms Clare Carpenter, gyflawni llawdriniaeth frys er mwyn sefydlogi ei doriad gyda rhodenni metel, sydd wedi’u dylunio’n arbennig, a fydd yn ymestyn wrth iddo dyfu. 

Wrth siarad am ei rôl, dywedodd Clare: “Rwyf wrth fy modd ag ymarferoldeb llawdriniaeth ac, yn amlwg, mae gan Gaerdydd arbenigeddau cymhleth ac arbenigeddau trydyddol i gyd yn yr un lle. Rwy’n cael delio â phlant sy’n gwella’n gyflym iawn, ac maen nhw’n rhoi her newydd i fi a fy nhîm bob dydd.” 

Mae Clare a’i thîm yn benderfynol o ddarganfod beth sy’n achosi i esgyrn Olly dorri’n fwy hawdd a bydd yn cymryd biopsïau yn ystod y llawdriniaeth er mwyn cynnal profion helaeth. Wrth i dad Olly aros yn amyneddgar wrth erchwyn ei wely, mae Clare yn benderfynol o gyflawni cymaint o lawdriniaethau â phosib, ond a fydd hi’n gallu cydbwyso anghenion ei llawdriniaethau dewisol a’r achosion brys? 

Wrth siarad am ei rhan yn rhaglen ddogfen y BBC, dywedodd Clare: “Roeddwn i eisiau tynnu sylw at sefyllfa anodd plant â chlefydau cronig ac anafiadau acíwt a’r hyn y mae’n rhaid iddynt wynebu yn ystod eu proses adsefydlu. Mae’n anodd iawn i deulu sydd â phlentyn wedi’i eni ag annormaledd cynhenid neu hyd yn oed annormaledd caffaeledig. Ac weithiau nid oes systemau yn eu lle yn llawn i’w cefnogi.” 

Drws nesaf yn Ysbyty Athrofaol Cymru, mae casgliad o lawfeddygon arbenigol yn paratoi ar gyfer llawdriniaeth naw awr. Mae tîm Bôn y Benglog yn dod at ei gilydd tua deg gwaith y flwyddyn i drin cyflyrau cymhleth sy’n effeithio ar fôn y benglog. 

Mae gan Michelle, sy’n hanner cant ac un oed, dyfiant prin eithriadol o boenus uwchben soced ei llygad chwith. Mae’r tyfiant yn achosi cur pen eithafol, sy’n golygu ei bod wedi gorfod rhoi’r gorau i yrru, ac mae gweithio bellach yn amhosibl. 

Gyda’r driniaeth yn digwydd ar ardal mor gymhleth o’r corff, mae angen arbenigedd y Niwrolawfeddyg Ymgynghorol Mr Amr Mohamed, Llawfeddyg y Genau a’r Wyneb Ymgynghorol Mr Satyajeet Bhatia, Meddyg Ymgynghorol Offthalmoleg Ms Anjana Haridas, ynghyd â’r technegydd Luke Maxwell sy’n gweithgynhyrchu’r mewnblaniad titaniwm sydd ei angen ar Michelle yn ddigidol. 

Dywedodd Satyajeet: “Nid yw haemangioma, y cyflwr oedd gan Michelle, mor gyffredin â hynny. Roeddem yn meddwl ei fod yn mynd i fod yn ddysplasia ffibrog, gan fod y delweddu’n gyson â hyn, ac roeddem yn bwriadu cael gwared ar y briw i drin symptomau Michelle”. 

Ychwanegodd Anjana: “Mae gan fôn y benglog anatomeg a strwythur cymhleth iawn.  Yn anatomegol, dyma lle mae llawer o bethau’n dod ynghyd felly fel gwasanaeth, rydyn ni i gyd yn cwrdd gan fod angen i ni edrych arno o wahanol gyfeiriadau.” 

Roedd bod yn rhan o Saving Lives in Cardiff y BBC yn gyfle i dynnu sylw at waith tîm Bôn y Benglog, meddai Anjana. “Mae’n flaengar,” eglurodd. “Mae’n braf i gleifion yng Nghymru wybod eu bod yn cael y gwasanaeth hwn o safon fyd-eang ar eu stepen ddrws.” 

Dywedodd Amr: “Mae llawer o feddwl a gwaith ac ymdrech y tu ôl i bob claf, nid gan un aelod o’r tîm yn unig, ond mae sawl un wedi bod yn rhan o’r broses hon.” 

Ychwanegodd Satyajeet: “Mae tri meddyg ymgynghorol yn gwneud y llawdriniaeth gyda’i gilydd gyda chymorth y technegydd labordy a gweddill y tîm, ac ar ben hynny mae’r deunydd sy’n cael ei ddefnyddio yn ddrud iawn. Felly, gyda’r holl amser, arian ac ymdrech, rydym yn darparu gwasanaeth o’r radd flaenaf. Dyma’r safon aur o ran triniaeth yn unrhyw le yn y byd.” 

Hefyd yn y bennod, mae’r Llawfeddyg Offthalmoleg Ms Magdalena Popiela yn brwydro i achub golwg Bethan, sy’n hanner cant a dwy ac yn fam i ddau. Ganed Bethan gyda chyflwr a elwir yn gataractau cynhenid, a arweiniodd ati’n dod yn hollol ddall yn ei llygad chwith ddeng mlynedd yn ôl ac mae ganddi olwg gyfyngedig iawn yn unig yn ei llygad dde. Mewn ymgais olaf i achub yr hyn sy’n weddill o’i golwg, bydd Magdalena yn rhoi cynnig ar drawsblaniad cornbilen arall, ar ôl i’r diwethaf fethu. 

Dywedodd Magdalena: “Y dyddiau hyn, gallwch chi drawsblannu gwahanol haenau o’r gornbilen i adfer golwg yn dibynnu ar wahanol batholeg. Ers bod yn yr ysgol feddygol, roeddwn i eisiau cymryd rhan mewn trawsblaniadau ac rwy’n falch bod offthalmoleg wedi fy ngalluogi i wireddu’r freuddwyd hon.” 

Mae Bethan yn ysu i gadw’r ychydig o olwg sydd ar ôl ganddi, er mwyn iddi allu parhau i weithio a gweld ei phlant yn eu harddegau yn tyfu i fyny. Ond po fwyaf o drawsblaniadau y mae claf yn eu cael, y mwyaf yw’r risg y bydd y corff yn ei wrthod. Y cyfan y gall Bethan ei wneud yw rhoi ei ffydd ym Magdalena. 

Wrth sôn am ei rhan yn y rhaglen, dywedodd Magdalena: “Roeddwn i eisiau gwneud gwylwyr yn ymwybodol o’r posibilrwydd a’r angen i roi llygaid. Rwy’n mawr obeithio y bydd rhai yn ystyried rhoi eu llygaid os nad ydynt wedi gwneud hynny eisoes. Gall rhoi cornbilenni roi’r rhodd o olwg i rywun.” 

Gwyliwch Saving Lives in Cardiff bob dydd Mawrth am 9pm ar BBC One Wales a BBC Two. Wedi colli pennod? Daliwch i fyny ar BBC iPlayer

 

Dilynwch ni