Mae Partneriaeth Alcohol Cymunedol Caerdydd, dan arweiniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, wedi ymuno â Thrafnidiaeth Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydain i hyrwyddo ymgyrch i helpu pobl i gyrraedd adref yn ddiogel gyda’r nos.
Dros gyfnod y Nadolig bydd llawer ohonom wedi mwynhau noson allan yn dathlu, ond gall yfed gormod o alcohol roi pobl mewn mwy o berygl, yn ogystal ag effeithio ar eu hiechyd.
Mae Partneriaeth Alcohol Cymunedol Caerdydd yn gweithio gyda sefydliadau lleol i leihau niwed alcohol i'n pobl ifanc 18 i 25 oed, ac maent wedi dylunio sgriniau electronig newydd sy'n hyrwyddo negeseuon diogelwch allweddol yng Ngorsaf Caerdydd Canolog.
Dywedodd Lauren Idowu, Prif Arbenigwr Hybu Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chadeirydd CAP Caerdydd: "Rydym yn falch iawn o weithio mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydain ar neges mor bwysig.
"Mae Caerdydd yn ddinas fywiog, llawn cyffro sydd â bywyd nos amrywiol. Er ein bod am i bobl fwynhau popeth sydd gan brifddinas Cymru i'w gynnig, rydym hefyd am sicrhau eu bod yn cyrraedd adref yn ddiogel.
"Rydym yn annog pobl i gynllunio sut y byddant yn cyrraedd adref cyn eu noson allan, fel edrych ar amseroedd trên a siarad â ffrindiau am bwy y byddant yn cerdded adref gyda nhw. Mae pethau syml fel gwefru eich ffôn, cadw at ganllawiau yfed mwy diogel a chadw llygad agos ar eich diodydd i gyd yn lleihau'r risg o niwed."
Dywedodd Cyfarwyddwr Diogelwch, Cynaliadwyedd a Risg Trafnidiaeth Cymru, Leyton Powell: "Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o bobl yn dod allan i ddathlu cyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd ac yn dewis trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd adref.
"Eleni eto rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'n partneriaid yn Heddlu Trafnidiaeth Prydain a'n timau diogelwch, gyda phresenoldeb gwell yn rhai o'n gorsafoedd prysuraf.
"Bydd y gwaith hwn yn parhau drwy gydol mis Ionawr ac i fis Chwefror a mis Mawrth, pan fydd degau o filoedd o gefnogwyr rygbi yn dod i Gaerdydd ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
"Rydym yn gobeithio y bydd pawb yn mwynhau eu hunain, ond rydym yn atgoffa ein cwsmeriaid i ymddwyn yn ddiogel a pharchu teithwyr eraill a'n cydweithwyr bob amser."
Mae’r prosiect hwn yn gweithio gyda'r oedolion iau, ond ar ddechrau’r flwyddyn newydd, mae’n bosib y bydd llawer ohonom yn ailystyried ein harferion yfed ac yn ystyried cymryd seibiant o yfed neu leihau faint rydyn ni’n ei yfed.
Argymhellir bod dynion a menywod yn yfed dim mwy na 14 uned dros gyfnod o wythnos, a chael sawl diwrnod di-alcohol. Ceir mwy o wybodaeth a chefnogaeth ynghylch yfed yma ac am ragor o wybodaeth am fentrau diogelwch i fyfyrwyr, cliciwch yma.