11 Rhagfyr 2024
Dywed preswylwyr cartref gofal yng Nghaerdydd bod eu cryfder, eu sgiliau cydsymud a'u lles cyffredinol wedi gwella'n fawr diolch i ddosbarthiadau ymarfer corff newydd wedi'u hysbrydoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Yn fuan ar ôl i gartref gofal Llys Herbert Care UK yn Llysfaen agor ei ddrysau ym mis Medi 2023, gwahoddwyd arbenigwyr atal cwympiadau yn y Bwrdd Iechyd i ymweld i gynnig addysg, hyfforddiant a chefnogaeth i gydweithwyr, preswylwyr newydd a'r gymuned ehangach.
Yn ogystal ag amlinellu prif achosion cwympiadau a sut i leihau'r risg, un o'r awgrymiadau oedd i'r cartref sefydlu dosbarthiadau ymarfer corff grŵp rheolaidd i ganiatáu i breswylwyr gynnal eu cryfder, cydbwysedd a chydsymud.
Ddeuddeg mis ers yr ymweliad cychwynnol, mae dau gydlynydd ffordd o fyw yn Llys Herbert yn parhau i gynnig y dosbarthiadau dair gwaith yr wythnos, gan ddefnyddio ymarferion a grëwyd gan raglen cryfder a chydbwysedd unigol ffisiotherapi y Bwrdd Iechyd (ISBP).
"Dwi wir yn teimlo bod yr ymarferion yn helpu gyda fy nghyhyrau," eglurodd Margaret, 96 oed, sydd wedi byw yn Llys Herbert ers wyth mis. "Mae'n bwysig iawn cadw’n symudol oherwydd, yn anffodus, dwi'n gweld llawer o bobl o'm cwmpas sydd ddim yn cadw’n actif a dwi'n ddiolchgar iawn fy mod i'n dal i allu gwneud. Rwy'n bwriadu cadw’n actif cyhyd ag y gallaf.
"Rydych chi'n dweud wrth eich hun y gallwch chi wneud yr ymarferion hyn yn eich amser eich hun, ond wrth gwrs dydych chi ddim. Mae angen yr anogaeth a’r cymhelliant hwnnw [o'r dosbarthiadau] arnoch i'w wneud.
"Rwyf wedi canfod bod gwneud yr ymarferion syml gyda'ch dwylo wedi caniatáu imi gael gwell gafael ar bethau fel botymau cot a chlipiau ewinedd. Mae'n beth bach ond yn bwysig iawn i mi gan ei fod yn fy nghadw mor annibynnol â phosib."
Mae Leah Lee, cydlynydd ffordd o fyw yn Llys Herbert, yn dod ag elfen o hwyl a brwdfrydedd i ddosbarthiadau ymarfer atal cwympiadau.
"Does dim ots os ydy rhai pobl yn llai abl yn gorfforol na'i gilydd achos dwi'n addasu'r dosbarthiadau i weddu i bob gallu," meddai. "Rydyn ni'n cael llawer o hwyl ac mae pawb yn mwynhau.
"Rydw i wedi synnu'n fawr iawn gyda'r gwahaniaeth y mae wedi'i wneud. Dyw e ddim wedi digwydd dros nos, ond oherwydd ein bod ni wedi bod yn gwneud dosbarthiadau dair gwaith yr wythnos gallwch weld gwelliannau, yn enwedig o ran dal osgo - fel codi coesau - am gyfnodau hirach o amser."
Mae'r dosbarthiadau, sy'n cael eu cynnal yn lolfa'r cartref ac yn para tua 30 munud, yn dechrau drwy gynhesu’r corff yn ysgafn, ac yna ymarferion ychydig yn fwy egnïol fel codi’r sawdl a’r droed a chodi’r ben-glin. Lle bo'n bosibl, mae rhai yn cael eu hannog i ddefnyddio eu breichiau i wthio eu hunain ar eu traed.
"Weithiau rydyn ni'n chwarae cerddoriaeth ysgogol braf, yn enwedig ar ddiwedd y sesiwn i orffen ar lefel uchel," ychwanegodd Leah. "Rwy'n falch iawn eu bod yn cael cymaint o fudd ohono."
Dywedodd Kathryn Crawford, arweinydd cwympiadau ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, bod agor Llys Herbert, yn rhoi'r "cyfle perffaith" i gydweithio â chartref gofal a chynnig cefnogaeth i'w gydweithwyr.
"Roedd hyn yn beilot i weld sut y gallwn weithio gyda'n cartrefi nyrsio a gofal i helpu i atal a lleihau'r risg o gwympo ac atal oedolion hŷn rhag dod i’r uned achosion brys,” meddai.
Ychwanegodd Kathryn bod atal cwympiadau'n golygu "cymaint o ffactorau", gan gynnwys asesu amgylchedd person, rheoli meddyginiaethau, gofal traed, hydradu a gorbwysedd osgo (gostyngiad mewn pwysedd gwaed tra'n sefyll). Roedd rhan o'u hymweliad cyntaf â'r cartref yn cynnwys gwneud y tîm gofal yn ymwybodol o'r holl ffactorau hyn a sut y gellid rhoi ymyriadau effeithiol ar waith.
Roedd eu hail ymweliad, yn ystod diwrnod agored y cartref, yn caniatáu i ffisiotherapydd Bwrdd Iechyd hyrwyddo pwysigrwydd ymarferion cryfder a chydbwysedd a gynhaliwyd gan gydlynwyr ffordd o fyw yn effeithiol iawn.
"Y cryfaf a'r mwyaf heini yw'r trigolion, y lleiaf tebygol ydyn nhw o ddirywio a bod angen cael mynediad i'n gwasanaethau. Mae'r cyfan yn gadarnhaol iawn a gobeithio y bydd yn sbardun i ni wneud mwy yn ein cymunedau ledled Caerdydd a'r Fro," meddai Kathryn.
Mae Llys Herbert yn gartref gofal o'r radd flaenaf sy'n darparu gofal preswyl a dementia llawn amser, yn ogystal â gofal seibiant tymor byr. Wedi'i gynllunio i alluogi preswylwyr i fyw bywydau pleserus a boddhaus, mae gan y cartref ei sinema, caffi a salon gwallt ei hun, ac mae digon o le – dan do a thu allan – i ymlacio a hamddena.