Gall pobl sy’n gymwys i gael Dos Atgyfnerthu’r Gwanwyn COVID-19 bellach alw heibio i Ganolfan Brechu Torfol (MVC) i dderbyn eu brechlyn heb wneud apwyntiad.
Cafodd pobl dros 75 oed, preswylwyr cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn, a’r rhai pump oed ac yn hŷn sy’n imiwnoataliedig i gyd eu dewis ar gyfer y dos atgyfnerthu yn unol â chyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI).
I ddechrau, gwahoddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro y grwpiau mwy agored i niwed hyn i apwyntiad drwy lythyr neu neges destun, ond nawr gallant ddod i un o ddau o Ganolfannau Brechu Torfol y Bwrdd Iechyd - yn Nhŷ Coetir yng Nghaerdydd neu Ysbyty’r Barri - saith diwrnod yr wythnos rhwng 10am a 7pm.
Bydd angen i bob person cymwys ddod i gael brechlyn cyn 30 Mehefin pan fydd rhaglen Dos Atgyfnerthu’r Gwanwyn yn dod i ben.
Yr unig ddyddiadau na fydd y Canolfannau Brechu Torfol ar agor yw dydd Mawrth, 6 Mehefin a dydd Mercher, 7 Mehefin pan fydd disgwyl y bydd aelodau o’r Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) yn gweithredu’n ddiwydiannol. Cysylltir ag unrhyw un sydd wedi cael apwyntiad ar y dyddiau hynny a chynigir dyddiad arall iddynt, neu gallant gael apwyntiad trwy alw heibio i un o’r safleoedd brechu.
Os ydych yn credu eich bod yn gymwys i gael Dos Atgyfnerthu’r Gwanwyn ond nad ydych wedi cael eich galw i gael y brechlyn, ffoniwch 02921 841234 (dydd Llun i ddydd Sul, 9am i 5pm).