29 Hydref 2024
Ar Ddiwrnod Strôc y Byd rydym yn dathlu taith adsefydlu cyn brif gogydd o Gaerdydd, Enrique, wrth iddo ddychwelyd i CrossFit a’r pethau y mae wrth ei fodd yn eu gwneud, ar ôl dioddef strôc ddinistriol y llynedd, yn 35 oed.
Ddeng mis ar ôl cael ei rhyddhau o’r Ganolfan Adsefydlu ar ôl Strôc yn Llandochau, mae Enrique yn ôl fel gwirfoddolwr, ac yn dod â gobaith a llawenydd i gleifion strôc eraill.
Ym mis Medi 2023, gwnaeth Enrique, a oedd yn mwynhau gwneud CrossFit ac yn brif gogydd mewn bwyty yng Nghaerdydd, ddioddef strôc a newidiodd ei fywyd. Roedd yr effaith yn ddinistriol, ond trwy waith caled, agwedd bositif a chefnogaeth gan dimau adsefydlu BIP Caerdydd a’r Fro, mae Enrique yn ôl yn gwneud y pethau mae’n eu caru a mwy.
Yn ystod ei adferiad trosglwyddwyd Enrique o’r Ward Strôc Acíwt i’r Ganolfan Adsefydlu ar ôl Strôc (SRC) yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, lle bu’n gweithio’n galed, yn datblygu perthynas yn gyflym â chleifion eraill ac yn chwarae rhan weithredol yn arwain grwpiau therapi coginio.
Ychydig cyn iddo gael ei ryddhau, dywedodd Enrique wrth Wirfoddolwr Cleifion, Steve: “Y tro nesaf y byddi di’n fy ngweld i, byddai’n gwisgo’r un crys-t â ti” gan gyfeirio at ei wisg gwirfoddolwr.
Rhyddhawyd Enrique ym mis Ionawr 2024 a pharhaodd i dderbyn adsefydlu cymunedol gan y gwasanaeth Rhyddhau Cynnar â Chymorth ar ôl Strôc (ESD). Gwnaeth y gwasanaeth ESD ei helpu gyda’i geisiadau budd-daliadau a gwirfoddoli, i brynu offer cegin addasol, i ymarfer llwybrau bysiau a cherdded yn yr awyr agored, i gymryd rhan mewn sesiynau coginio ac i wneud cais am asesiad gyrru gyda’r DVLA.
Yna cyfeiriwyd Enrique at y Gwasanaeth Niwroadsefydlu Cymunedol (CNRS). Mynychodd grŵp Cryfder a Chydbwysedd ac yn ddiweddarach fe’i cyfeiriwyd at Therapydd Galwedigaethol y tîm Natalie Hughes a’i cefnogodd i wneud cais am docyn bws, bathodyn glas ac aelodaeth o’r llyfrgell leol.
Gan fod gwirfoddoli yn un o brif flaenoriaethau Enrique, bu Natalie yn gweithio gydag ef i gwblhau ei gais DBS a modiwlau hyfforddi ar-lein i'w gefnogi i ddod yn Wirfoddolwr Cleifion y GIG.
Dywedodd Enrique, “Roedd yn bwysig iawn i mi ddychwelyd i’r Ganolfan Adsefydlu ar ôl Strôc i wirfoddoli. Oni bai am help Natalie ni fyddwn wedi dechrau gwirfoddoli eto. Ers cael tocyn bws, rwy'n teimlo bod gennyf fwy o annibyniaeth ac rwyf wedi magu hyder wrth fynd i weithgareddau awyr agored ac weithiau archwilio llwybrau bysiau newydd, felly rwyf wedi elwa'n fawr ar gymorth Natalie”.
Mae'n mynychu'r Grŵp Cryfder a Chydbwysedd wythnosol; pêl-droed cerdded ac mae wedi cwblhau rhaglen arddio 6 wythnos 'Grow Getters'. Dywedodd Enrique: “Anogodd Natalie fi i ddefnyddio fy aelod chwith uchaf wrth arddio. Roeddwn i wrth fy modd â’r rhan gymdeithasol o fynychu’r grŵp a chael budd o adsefydlu ar yr un pryd”.
Dywedodd Natalie: “Mae cefnogi Enrique wedi bod yn ysbrydoledig. Mae’n mynd at bob sesiwn gyda brwdfrydedd ac egni, gydag ymdeimlad gwirioneddol o benderfyniad i lwyddo.”
Ym mis Awst, dychwelodd Enrique i SRC ond y tro hwn fel Gwirfoddolwr Cleifion. Roedd yn gywir… y tro nesaf iddo weld Steve, roedd y ddau yn gwisgo crysau-t gwirfoddolwyr!
Dywedodd Amy Price, Technegydd Therapi Galwedigaethol yn y Ganolfan Adsefydlu ar ôl Strôc: “Mae Enrique eisoes wedi cael effaith aruthrol ar ein cleifion presennol yn SRC. Roedd fel gwestai enwog pan gyrhaeddodd yn ôl i wirfoddoli, nid oedd rhai pobl yn ei adnabod oherwydd ei fod yn edrych mor dda. Mae ei ymagwedd garedig ac addfwyn ynghyd â'i brofiad strôc a'i gymhelliant ei hun wedi rhoi model rôl rhagorol i'n cleifion i'w cynorthwyo i wella eu hunain.
“Mae Enrique yn cael yr effaith fwyaf yn gweithio un-i-un gyda’n cleifion, boed hynny’n coginio, cyfeillio neu chwarae pŵl neu wyddbwyll! Cefais y pleser o wylio Enrique a chlaf presennol yn coginio spaghetti carbonara gyda’i gilydd yr wythnos hon ac roedd yn wych ei wylio’n dangos sut i ddefnyddio ein hoffer addasu a’r sgiliau cydadferol y mae wedi’u dysgu i goginio gydag un fraich weithredol, yn ogystal â throsglwyddo ei wybodaeth coginio.”
Dywedodd Enrique: “Rwyf bob amser yn edrych ymlaen at fynychu’r grŵp therapi nesaf a chefnogi Amy i’w rhedeg, ond y tro hwn fel gwirfoddolwr ac nid fel claf. Rwy'n teimlo bod gen i bwrpas i adael y tŷ a chael amser pleserus. Rwy'n cael cymaint o bleser o gymryd rhan ac ymgysylltu â'r cleifion ac rwyf wedi gwneud ffrindiau neis. Rwy’n hapus i ddangos i oroeswyr strôc nad yw bywyd ar ben ar ôl strôc!”.
Dywedodd Amy: “Mae Enrique yn parhau i fod yn ysbrydoliaeth lwyr i’n cleifion ac unrhyw un y mae’n cwrdd â nhw. Mae’n rhoi gobaith i gleifion a’u hanwyliaid nad yw bywyd ar ben.”
Dywedodd James, claf yn y Ganolfan Adsefydlu ar ôl Strôc: “Rwyf wedi elwa’n fawr ar wirfoddoli Enrique drwy weld y cynnydd y mae wedi’i wneud ers iddo gael ei ryddhau o’r ysbyty a’r hyn y gallwch ei gyflawni gyda’r meddylfryd cywir. Mae hefyd wedi dangos sgiliau cydadferol i mi y byddaf yn eu defnyddio pan fyddaf yn mynd adref. Rwyf wedi gwneud ffrind gydol oes.”
Dywedodd Phil, claf 86 oed, am Enrique: “Mae ganddo ddiffygion strôc tebyg iawn i mi ac mae wedi gwella’n dda ac yn parhau i symud ymlaen ac mae hynny’n rhoi gobaith. Mae'n ddyn mor ifanc i hyn ddigwydd iddo ac rydych chi'n gweld ei fod yn berson go iawn ac yn dangos i chi fod yna fywyd ar ôl strôc. Mae’n berson rhyfeddol, a bob amser yn gwenu er ei fod yn wynebu anableddau.”
Dywedodd Joanne, 54 oed: “Mae'n drysor llwyr! Mae'n ysbrydoliaeth ac mae ganddo agwedd mor bositif hyd yn oed ar ôl yr holl broblemau a heriau y mae wedi’u hwynebu. Pan fyddwch chi'n gweithio gydag ef ar dasg un-i-un, rydych chi'n teimlo eich bod chi'n cael ychydig o normalrwydd eto. Mae'n berson arbennig iawn. Caredig iawn, gofalgar iawn ac mae'n dod â math arbennig o egni. Mae enw da iawn ganddo.”
Roedd Enrique yn awyddus iawn i sefydlu trefn ar gyfer ei fywyd newydd ar ôl y strôc ac roedd yn mynd ati i chwilio am bethau i'w gwneud. Ymunodd â grŵp lleol y Gymdeithas Strôc ac mae’n mynychu bob dydd Llun ac mae hefyd yn mynychu grŵp cymdeithasol Strôc misol. Mae wedi gwneud ffrindiau yn y grwpiau hyn, ac maen nhw'n darparu cefnogaeth wych gan gymheiriaid.
Ymunodd â phrosiect gardd gymunedol leol o’r enw “Tyfu’n Dda” yn Dusty Forge ar Heol y Bont-faen a helpodd i goginio yn eu grŵp cymdeithasol bwyd wythnosol. Mae Enrique yn caru cŵn ac mae wedi dechrau gwirfoddoli gyda’r Gymdeithas Cŵn Tywys i helpu i ofalu am y cŵn sy’n hyfforddi ar hyn o bryd. Mae Enrique yn chwaraewr gwyddbwyll brwd ac yn mynychu Clwb Gwyddbwyll unwaith y mis yn Lolfa Boomerang yn Nhreganna.
Ym mis Gorffennaf, symudodd Enrique i fflat parhaol newydd a chafodd gefnogaeth gan ffrindiau a theulu i'w wneud yn gartrefol. Mae wedi ymgartrefu'n dda ac yn mwynhau archwilio ardal newydd arall o Gaerdydd. Mae wedi teithio'n annibynnol i Sbaen ddwywaith i ymweld â'i deulu. Mae hefyd
wedi cwblhau asesiad gyrru ac mae newydd ddechrau gwersi gyrru gloywi. Dychwelyd i yrru yw ei gôl fawr nesaf.
Roedd CrossFit a dringo yn rhan enfawr o fywyd Enrique cyn iddo gael strôc. Er gwaethaf ei namau corfforol ar ôl y strôc, nid yw wedi gadael i hyn ei atal ac mae'n mynychu dosbarthiadau CrossFit yn rheolaidd. Mae'r hyfforddwyr CrossFit yn addasu'r ymarferion ar gyfer Enrique, ac mae'n ysbrydoliaeth i'r aelodau yn y gampfa. Bu hefyd yn cystadlu mewn cystadleuaeth Adaptive CrossFit yn ddiweddar. Ceisiodd Enrique ddringo mewn canolfan ddringo dan do gyda ffrindiau sawl mis yn ôl, roedd yn ei chael hi'n heriol ond mae'n awyddus i geisio eto yn fuan. Mae Enrique yn gweithio gyda'r Ffisiotherapydd Cleifion Allanol Niwro Hannah Denty a Natalie i barhau â'i adsefydlu ar ei fraich uchaf, a'i nod presennol yw gwneud 'burpee'.
Dywedodd Enrique: “Diolch i fy strôc rydw i wedi darganfod gweithgareddau na fyddwn i byth wedi ystyried eu gwneud ac rydw i wrth fy modd yn gallu llunio trefn wythnosol gyda'r pethau rydw i'n eu mwynhau. Mae fy nodau hirdymor yn cynnwys dringo a rhedeg eto, mynd yn ôl i'r gegin i weithio, cael fy musnes fy hun a gyrru eto.
“Rwyf wedi creu rhwydwaith cyfeillgarwch na fyddwn wedi ei wneud fel arall, ac wedi cyfarfod â phobl anhygoel ar hyd fy nhaith strôc. Rwy’n edrych ymlaen at y penodau nesaf ac rwy’n fodlon cymryd rhan mewn rolau gwirfoddoli strôc eraill i hybu adferiad yn dilyn strôc!”
Llun: Amy Price, Technegydd Therapi Galwedigaethol, Enrique a Hannah Carpenter, Technegydd Ffisiotherapydd