Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Strôc y Byd

27 Hydref 2023

Mae Diwrnod Strôc y Byd yn cael ei gynnal bob blwyddyn ar 29 Hydref, ac mae’n tynnu sylw at un o brif achosion marwolaeth nid yn unig yng Nghymru ond ledled y byd. 

Mae strôc – a elwir hefyd yn glefyd serebro-fasgwlaidd – yn digwydd pan fydd cyflenwad gwaed i’r ymennydd yn cael ei atal, sydd yn ei dro yn arwain at niwed i gelloedd yr ymennydd. Gall effeithiau strôc amrywio o berson i berson, ond yn dibynnu ar ba ran o’r ymennydd sy’n stopio derbyn cyflenwad o waed, gall effeithio ar symudedd, lleferydd a hyd yn oed y ffordd rydych chi’n meddwl. 

Strôc yw’r pedwerydd o brif achosion marwolaeth yn y DU ac yn drist iawn, prif achos anabledd. Bob blwyddyn, mae tua 7,000 o bobl ledled Cymru yn cael eu derbyn i’r ysbyty oherwydd strôc ac mae 1,900 o bobl yn colli eu bywydau. 

Fodd bynnag, gall ei ganfod a’i drin yn gynnar leihau’r risg o niwed parhaol yn sylweddol ac mae dros 70,000 o bobl yng Nghymru wedi goroesi strôc neu fan strôc. Dyna pam ei bod hi’n bwysig gwybod a gallu adnabod arwyddion strôc. 

Cofiwch y cam N.E.S.A: 

  • Nam ar yr wyneb - a yw’r wyneb wedi syrthio ar un ochr? Ydyn nhw’n gallu gwenu? 
  • Estyn - ydyn nhw’n gallu estyn y ddwy fraich uwch eu pen a’u cadw yno? 
  • Siarad - ydyn nhw’n siarad yn aneglur? 
  • Amser - hyd yn oed os nad ydych yn siŵr, ffoniwch 999. 

Gellir cymryd camau ataliol i leihau’r siawns o gael strôc. Y ffordd orau o leihau’r risg yn sylweddol yw bwyta deiet iach, ymarfer corff yn rheolaidd, bod yn ymwybodol faint o alcohol rydych chi’n ei yfed (llai nag 14 uned yr wythnos) a rhoi’r gorau i smygu. 

Isod, gweler y pedwar o’r risgiau mwyaf cyffredin sy’n cynyddu’r siawns o gael strôc: 

Pwysedd gwaed uchel 

  • Dros 65 oed 
  • Smygu 
  • Dros eich pwysau 
  • Diffyg ymarfer corff 
  • Gormod o alcohol/coffi 

Colesterol uchel 

  • Cigoedd llawn braster/wedi’u prosesu 
  • Menyn, hufen a chaws 
  • Cacennau a bisgedi 
  • Bwydydd sy’n cynnwys olew cnau coco neu olew palmwydd 

Diabetes 

  • Mae’r celloedd sy’n cynhyrchu inswlin yn cael eu dinistrio gan system imiwnedd y corff (Math 1) 
  • Nid yw’r corff yn cynhyrchu digon o inswlin neu nid yw celloedd y corff yn adweithio iddo (Math 2) 

Ffibriliad Atrïaidd 

  • Curiad calon afreolaidd sy’n effeithio’n fwy ar ddynion a phobl hŷn 

Os ydych yn amau ​​eich bod chi neu rywun arall yn cael strôc – hyd yn oed os ydych yn ansicr – ffoniwch 999 ar unwaith. 

Gweler isod ystod o adnoddau ar Strôc: 

Dilynwch ni