Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Rhoddwyr Gwaed y Byd 2024 - Pwysigrwydd rhoi gwaed

Heb roddion gwaed gan aelodau o’r cyhoedd, ni allai ysbytai ledled Cymru gael y stoc gwaed sydd ei angen arnynt i ofalu am gleifion.

Yng Nghymru, mae ysbytai angen 350 o roddion bob dydd i achub y rhai sydd â chyflyrau sy’n bygwth bywyd a gwella ansawdd bywyd cleifion sy’n dioddef o salwch gwaed penodol. Mae Alex, 27 o Gaerdydd yn rhannu ei phrofiad o roi gwaed a pham ei bod hi’n bwysig cymryd rhan os gallwch chi.

“Pan oeddwn i’n iau, roedd fy mam yn arfer rhoi gwaed yn rheolaidd; roedd gen i gryn ddiddordeb ac roeddwn i’n gwybod wrth dyfu i fyny ei fod yn rhywbeth roeddwn i eisiau ei wneud. Roedd yn un o’r nodau roeddwn i eisiau eu cyflawni yn ystod fy mywyd!

Rwy’n gwybod nad yw pawb yn gallu rhoi gwaed felly i mi, rwy’n meddwl ei fod yn bwysig iawn; gan fy mod i’n gallu, dylwn i wneud, gan nad ydych chi byth yn gwybod pwy allai fod ei angen.”

Mae trefnu sesiwn rhoi gwaed yn syml, ac mae Alex yn gallu dod o hyd i amser i roi yn ystod ei diwrnod gwaith;

“Rydw i wir yn mwynhau rhoi gwaed; rydych chi’n helpu pobl heb wneud gormod, ac mae’r bisgedi rhad ac am ddim yn fonws!

“Yn enwedig yng Nghaerdydd, mae llawer o apwyntiadau mewn gwahanol leoliadau sy’n cyd-fynd â fy amserlen rhoi gwaed.

“Mae’r staff bob amser yn gyfeillgar iawn, ac yn treulio amser yn trafod popeth gyda chi os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, maen nhw hefyd yn ddefnyddiol iawn os ydych chi’n teimlo’n sâl, neu gallant roi cyngor ar sut y dylech ofalu amdanoch eich hun ar ôl rhoi gwaed.

“Mae’r broses gyfan yn cymryd tua 20 munud, ond gall amrywio yn dibynnu ar y person a sut rydych chi’n teimlo ar ôl yr apwyntiad. Yn fy mhrofiad i, mae bob amser wedi bod yn gymharol syml a didrafferth, rwyf hefyd yn tueddu i roi gwaed yn ystod fy niwrnod gwaith – mynd i’r apwyntiad ar ôl cinio ac yna yn ôl i’r swyddfa.

“Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru hefyd yn wych am anfon negeseuon atgoffa pan allwch chi roi gwaed eto – sy’n ddefnyddiol iawn i mi.”

Gyda phedwerydd tro Alex yn rhoi gwaed ar y gweill ymhen ychydig wythnosau, mae’n tynnu sylw at ba mor bwysig yw annog ffrindiau a theulu i roi gwaed os gallant;

“Rwy’n deall yn iawn bod meini prawf i’w bodloni i roi gwaed ac rydw i hefyd yn deall y rhesymau eraill sydd gan bobl dros beidio â rhoi (e.e. bod ofn nodwyddau neu waed ac ati). Dyna pam dwi’n meddwl ei fod mor bwysig - gan fy mod i’n gallu rhoi gwaed, dylwn i wneud hynn! Hefyd, os ydych yn nerfus ac os oes gennych unrhyw gwestiynau am roi gwaed, neu os na allwch roi’r swm llawn, bydd y cydweithwyr yno i’ch cefnogi a bydd unrhyw beth y gallwch ei roi yn helpu.”

Anogir pob oedolyn i roi gwaed. Mewn rhai achosion, gall fod rhesymau pam na fyddwch yn gallu, ond dylai fod yn bosibl i unrhyw un sy’n bodloni’r meini prawf isod i roi:

  • 17-66 oed (wrth roi gwaed am y tro cyntaf)
  • Yn pwyso dros 50kg (7st. 12lbs.)
  • Iach a heb eich eithrio ar sail feddygol

Gallwch wirio a ydych yn gymwys i roi gwaed drwy gymryd rhan yn y cwis byr yma.

Os ydych chi eisiau rhoi gwaed, edrychwch ar amseroedd, dyddiadau a lleoliadau’r sesiynau sydd i ddod yma: WBS Booking (wales.nhs.uk)

Dilynwch ni