22 Tachwedd 2024
Ar Ddiwrnod Plant y Byd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn falch o fod yn lansio’r Cynllun Babanod, Plant a Phobl Ifanc ar gyfer 2025-2035 yn Stadiwm Dinas Caerdydd fel rhan o'n gwaith Llunio ein Gwasanaethau Clinigol i’r Dyfodol.
Mae'r strategaeth hon yn ymgorffori gweledigaeth feiddgar ar gyfer gwella iechyd a lles babanod, plant a phobl ifanc yn ein cymuned, ac fe’i datblygwyd gyda'u lleisiau nhw wrth ei chalon. Rydym yn falch o fod wedi cyd-greu'r cynllun hwn mewn cydweithrediad agos â'r rhai a fydd yn elwa fwyaf arni. Drwy weithio gyda'n gilydd, rydym wedi llunio cynllun sy'n adlewyrchu eu hanghenion, eu dyheadau a'u safbwyntiau, a chredwn y bydd y dull cydweithredol hwn yn creu gwasanaethau sy'n arwain at newid ystyrlon, parhaol yn eu bywydau.
Mae'r cynllun hwn sydd wedi’i gydgynhyrchu yn adlewyrchu ein hymrwymiad cyfunol i gefnogi pob baban, plentyn a pherson ifanc i ffynnu, tyfu a chyflawni eu potensial llawn.
Gyda mewnwelediad a brwdfrydedd aelodau ein Bwrdd Ieuenctid, arbenigedd arweinwyr ein Byrddau Clinigol, ac ymroddiad ein partneriaid, rydym yn llawn cyffro i gymryd y cam arwyddocaol hwn ymlaen. Gyda'n gilydd, rydym yn paratoi'r ffordd ar gyfer dyfodol iachach a mwy disglair i'r genhedlaeth nesaf.
Nid yw'r daith yn dod i ben yma! Mae'r camau nesaf yn cynnwys cynlluniau cyflawni manwl a chydweithio parhaus gyda'n cymuned, teuluoedd a phartneriaid i ddod â'r weledigaeth hon yn fyw.
Diolch o galon i bawb a wnaeth y garreg filltir hon yn bosibl, yn enwedig y bobl ifanc y gwnaeth eu mewnbwn a'u brwdfrydedd ein hysbrydoli ni i gyd. Gyda'n gilydd, rydym yn adeiladu dyfodol mwy disglair ac iachach i'r genhedlaeth nesaf.