Cafodd cleifion a'u perthnasau y mae dau anhwylder gwaed etifeddol yn effeithio arnynt fwynhau diwrnod arbennig o hwyl i'r teulu yn Grangetown.
Wedi'i drefnu gan gydweithwyr yn y Gwasanaeth Anemia Etifeddol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, bu'r digwyddiad ym Mhafiliwn Grange yn gyfle i bobl â chlefyd y crymangelloedd a thalasaemia gymryd rhan mewn llu o weithgareddau yn cynnwys ioga, creu ffilmiau a chelf a chrefft.
Roedd hefyd stondinau addysg a deietegwyr arbenigol wrth law i gynnig cyngor i'r rhai a oedd yn bresennol ar reoli deiet cytbwys.
Nod y digwyddiad oedd dod â chleifion clefyd y crymangelloedd a thalasaemia o fewn gwasanaethau oedolion a phediatrig Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro at ei gilydd, i rannu eu profiadau o’u hanhwylderau a gweld eu clinigwyr y tu allan i’r ysbyty.
Sefydlwyd y gwasanaeth yn wreiddiol yn 1999 ac roedd wedi’i leoli yng Nghanolfan Iechyd Butetown gyda dim ond llond llaw o gleifion. Ond gan mai clefyd y crymangelloedd yw’r anhwylder genetig sy’n tyfu gyflymaf yn y DU, mae’r gwasanaeth bellach yn cael ei ariannu gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) a chafodd enw newydd, sef y Gwasanaeth Anemia Etifeddol.
Mae clefyd y crymangelloedd a thalasaemia yn anhwylderau gwaed genetig etifeddol sy'n bygwth bywyd ac yn cyfyngu ar fywyd ac maent yn effeithio ar yr haemoglobin yn y celloedd gwaed coch. Mae hyn yn achosi anemia cronig a all achosi niwed i'r holl organau.
Gall cymhlethdodau clefyd y crymangelloedd achosi rhwystr yn y capilarïau gan arwain at boen eithafol a necrosis (anaf i'r celloedd). Mae rhai cleifion yn cael trallwysiadau gwaed rheolaidd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Anemia Etifeddol: “Ar hyn o bryd, mae tua 90 o gleifion yn y gwasanaeth oedolion a phediatrig, gyda’r niferoedd yn cynyddu’n gyflym oherwydd y newidiadau yn amrywiaeth ein cymuned. Felly, fel gwasanaeth, mae angen inni fod yn cynnig mwy o gymorth a chyngor i’n cleifion a’u teuluoedd er mwyn sicrhau eu bod yn gallu byw bywyd mor iach a di-boen â phosibl.
“Rydym yn deall bod anghenion y cleifion nid yn unig yn glinigol, ond yn gymdeithasol hefyd. Y nod yw galluogi’r cleifion a’u teuluoedd a’u ffrindiau i ddod at ei gilydd i deimlo nid yn unig eu bod yn cael eu cefnogi gan y tîm, ond hefyd i ymgysylltu ag eraill mewn sefyllfaoedd tebyg i’w hunain. Gall hyn eu grymuso i gael llais ac i beidio â theimlo eu bod ar eu pen eu hunain.
“Roedd yn amlwg i weld bod y diwrnod yn llwyddiant ysgubol, gan fod pawb yn gwenu ac yn cymryd rhan yn y gweithgareddau. Cafwyd stondinau addysgol hefyd y gwnaeth y plant eu mwynhau yn fawr, ac roedd yn ddiwrnod a fydd, gobeithio, yn cael ei ailadrodd yn flynyddol. Bydd nid yn unig o fudd i gleifion a’u teuluoedd, ond bydd hefyd yn cynyddu ymwybyddiaeth o glefyd y crymangelloedd a thalasaemia, nad oes gan y boblogaeth gyffredinol lawer o wybodaeth amdanynt.”