31 Mawrth 2021
Cynhelir y 12fed Diwrnod Rhyngwladol Gwelededd Trawsrywiol blynyddol ar 31 Mawrth 2021.
Mae gweithwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro sy’n aelodau o’r Rhwydwaith Staff LGBTQ+ a ail-lansiwyd yn ddiweddar yn tynnu sylw cydweithwyr a’r gymuned ehangach at y digwyddiad.
Mae’r digwyddiad yn dathlu gwydnwch a llwyddiant pobl drawsryweddol a phobl nad ydynt yn cydymffurfio’n rhywiol ac yn codi ymwybyddiaeth o hawliau trawsryweddol o amgylch y byd. Mae hyn cyn bwysiced nawr ag erioed, gan mai 2020 oedd y flwyddyn fwyaf niweidiol ar gofnod ar gyfer y gymuned traws ond nid yw’r broblem yn cael ei chofnodi’n ddigonol o hyd.
Yn y DU, mae trawsffobia yn broblem gynyddol gyda chofnodion o droseddau casineb trawsffobig bedair gwaith yn uwch nag yn 2015. Yn ôl Galop, mae un ym mhob pedwar person traws wedi cael bygythiad neu brofiad o drais trawsffobig. Bydd un ym mhob tri o gyflogwyr y DU yn penderfynu peidio â chyflogi person traws ac mae bron i hanner o bobl traws wedi ceisio cyflawni hunanladdiad yn y gorffennol (Pink News 2021).
Mae pandemig COVID-19 wedi arwain at nifer gynyddol o bobl traws yn gaeth i’w cartrefi, yn aml mewn amgylcheddau anghefnogol.
Mae Rhwydwaith Staff LGBTQ+ wedi canfod rhaglenni dogfen traws a straeon traws y gall pobl ymgysylltu â nhw i wella eu dealltwriaeth o faterion traws:
Mae opsiynau eraill i ddangos eich cefnogaeth yn cynnwys rhoi amser, arian neu adnoddau i wasanaethau sy’n gweithio dros bobl traws, a allai gynnwys cefnogi cronfa LGBTQ+ Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.
Gallwch chi hefyd weithredu trwy fod yn gyfaill i bobl traws ac anneuaidd. Gallai hyn gynnwys ychwanegu rhagenwau i’ch llofnod e-bost, helpu i amlygu pwysigrwydd rhagenwau a’r effaith o’u defnyddio’n gywir.
Dywedodd Shannon Bakan, Rheolwr Gwasanaethau ar gyfer Gwasanaeth Rhywedd Cymru: “Mae Diwrnod Gwelededd Trawsrywiol yn gyfle i ddathlu harddwch a bywiogrwydd y gymuned traws, tra hefyd yn gyfle i stopio a myfyrio ar y flwyddyn ddiwethaf; blwyddyn sydd wedi bod yn llawn datblygiadau blaengar yn ogystal â phoen a thrallod o ganlyniad i effaith y pandemig ar gymunedau traws.
“Dylen ni fod yn dathlu pobl drawsryweddol a chodi ymwybyddiaeth o’r gwahaniaethu maent yn ei wynebu ym mhob man, nid dim ond heddiw, ond bob dydd.
Ar Ddiwrnod Gwelededd Trawsrywiol a phob dydd, rydym yn parhau i sefyll mewn undod gyda’r gymuned traws ac yn dathlu pob un person traws sy’n ddigon dewr i fyw eu bywydau fel nhw eu hunain. Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd yn ystod y cyfnod digynsail hwn, cysylltwch â Gwasanaeth Rhywedd Cymru neu Umbrella Cymru am gefnogaeth. Rydym ni yma i bawb drwy’r cyfan; unrhyw bryd a thrwy’r amser - nid pan fo rhywun mewn trafferth yn unig.”
Dywedodd Ruth Walker, Cyfarwyddwr Nyrsio Gweithredol a Noddwr Gweithredol ar gyfer materion Traws: “Mae Diwrnod Gwelededd Trawsrywiol yn ddigwyddiad blynyddol i ddathlu pobl traws ac anneuaidd a chodi ymwybyddiaeth o’r caledi mae pobl traws yn aml yn ei wynebu. Byddwn yn chwifio’r faner traws yn Ysbyty Athrofaol Cymru i gydnabod y diwrnod a dathlu’r amrywiaeth y mae staff traws yn ei ddod i’n gweithle.“Mae profiad pob unigolyn traws yn unigryw, ac mae’n bwysig sicrhau bod lleisiau traws yn cael eu clywed a’u hamlygu. O fewn y Bwrdd Iechyd, rydw i’n gyffrous i gefnogi’r Rhwydwaith Staff LGBTQ+ a ail-lansiwyd yn ddiweddar, a fydd yn gweithio ar feithrin diwylliant lle gall pawb ddod i’r gwaith fel nhw eu hunain.”
Ail-lansiwyd Rhwydwaith LGBTQ+ ym mis Chwefror 2021, i ddarparu cefnogaeth ac arweiniad i unrhyw aelod o staff LGBTQ+, wrth hefyd weithio’n agos gyda’r sefydliad i greu gweithle cynhwysol i bawb.
Hoffai Rhwydwaith LGBT+ recriwtio cydweithwyr o gymunedau traws, Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig i’r pwyllgor er mwyn sicrhau bod y gwaith yn gynrychioladol o’r grwpiau hyn. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â Rhiannon.Owen4@wales.nhs.uk.
31/03/2021