Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Gwelededd Traws 2023

31 Mawrth 2023

Mae Dydd Gwener 31 Mawrth yn nodi Diwrnod Gwelededd Traws — digwyddiad blynyddol sy'n dathlu pobl drawsryweddol ac anneuaidd ac yn codi ymwybyddiaeth o'r gwahaniaethu y mae’r gymuned yn ei wynebu. 

Mae troseddau casineb yn erbyn pobl drawsryweddol yn broblem gynyddol ac mae yna gynnydd enfawr wedi bod yn nifer y troseddau sy'n cael eu cofnodi gan yr heddlu ledled Cymru a Lloegr. Felly, mae'n bwysig hyrwyddo lleisiau a buddugoliaethau pobl sydd â hunaniaeth wahanol o ran rhywedd i'r rhyw a bennwyd iddynt adeg eu geni.  Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, rydym yn cefnogi pob person trawsryweddol ac anneuaidd ac yn sefyll mewn undod â'r gymuned draws. 

Eleni, cawsom ein henwi yn un o'r 100 sefydliad gorau i weithwyr LHDTC+ am yr ail flwyddyn yn olynol, ac rydyn ni wrth ein boddau ein bod wedi cael ein cydnabod am yr ymdrechion a wnaed i wneud gweithleoedd yn deg ac yn gyfartal i bobl LHDTC+. 

Mae Dr Kate Nambiar, menyw draws agored a meddyg yng Ngwasanaeth Rhywedd Cymru yn angerddol am gydraddoldeb a gofal iechyd da i bobl draws. Mae hi wedi bod yn gweithio'n galed i greu gofal iechyd gwell i bobl drawsryweddol ym mhob man ac yn hyrwyddo’r achos. Ar hyn o bryd, hi yw Cyfarwyddwr Meddygol Ymddiriedolaeth Terrence Higgins ac mae wedi partneru'n ddiweddar gydag Eastenders ar stori am ymwybyddiaeth HIV a lleihau'r stigma sy'n dod gyda diagnosis. 

Mae Dr Nambiar yn Glinigwr Rhywedd ac Arbenigwr Endocrinoleg ac mae wedi gweithio yn y GIG ers 1999. Yn 2012, ymgymerodd â gwaith ymchwil gyda'i chydweithwyr i ddangos yr anghydraddoldebau iechyd rhywiol o safbwynt pobl draws ac anneuaidd ac o ganlyniad, sefydlodd Clinic T yn Brighton. Mae Clinig T yn glinig iechyd rhywiol ac atal cenhedlu a sefydlwyd yn seiliedig ar yr angen am wasanaeth sy'n gynhwysol o ran rhywedd i'r bobl drawsryweddol yn y gymuned. 

Gyda'r cynnydd mewn camdriniaeth a throseddau casineb tuag at bobl drawsryweddol, mae'n tynnu sylw at ba mor bwysig yw hi ein bod yn cyfleu negeseuon cadarnhaol, fel y gwaith da mae Dr Kate Nambiar a'i chydweithwyr yn ei wneud o fewn Gwasanaeth Rhywedd Cymru ar gyfer cleifion traws. Mae Gwasanaeth Rhywedd Cymru yn hyrwyddo diwylliant o gynwysoldeb ac yn darparu gofal holistaidd sy'n canolbwyntio ar y claf ac mae’r ffocws ar yr agweddau hormonaidd, seicolegol a chymdeithasol ar drawsnewid. 

Ar y thema cydraddoldeb, dywedodd Dr Nambiar, "Dylai cydraddoldeb i bawb fod yn rhan sylfaenol o unrhyw gymdeithas wâr. Nid yw pobl draws yn eithriad i hynny. Yn fwy nag erioed, mae angen i'n cynghreiriaid sefyll drosom ac eirioli drosom. Dim ond cyhyd y gall ein llais gyrraedd: gyda'n cynghreiriaid ar ein hochr ni gallwn siarad â chymaint mwy o bobl." 

Aeth ymlaen, "Peidiwch â bod ofn mentro. Dwi wedi profi llawer o gam-drin, ond dwi ddim eisiau i'r ofn hynny ein cadw ni rhag siarad yn uchel - mae amlygrwydd yn gallu bod yn neges bwerus." 

Cafodd Gwasanaeth Rhywedd Cymru ei lansio yn 2019 fel tîm amlddisgyblaethol sy’n cynnwys clinigwyr rhywedd, endocrinolegwyr a seicolegwyr. Mae'r tîm i gyd yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu gofal holistaidd sy'n canolbwyntio ar gleifion; ac maen nhw hefyd yn gallu cyfeirio cleifion at wasanaethau perthnasol allai gefnogi eu cyfnod trawsnewid, e.e. therapi lleferydd ac iaith. 

Mae'r tîm i gyd yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu gofal holistaidd sy'n canolbwyntio ar gleifion, ac mae’n ffocws ar yr agweddau hormonaidd, seicolegol, a chymdeithasol ar drawsnewid. 

I fod yn gynghreiriad da i bobl drawsryweddol ar Ddiwrnod Gwelededd Traws a phob dydd, rydym yn gofyn i bobl gofio bod yn garedig. Ni ddylai rhywedd na rhywioldeb unigolyn fyth fod yn ffactor yn y ffordd rydych chi'n eu trin, ac nid yw hefyd yn rhywbeth i chwerthin na thynnu coes amdano. Dylai pobl o bob rhywioldeb a rhyw gael eu trin â pharch a charedigrwydd cyfartal bob dydd. 

Does neb yn haeddu cael eu beirniadu na'u gwrthwynebu oherwydd eu rhyw neu eu rhywioldeb. Os welwch chi gam-drin trawsffobig, rhowch wybod amdano. Mae'n bwysig sefyll dros bobl drawsryweddol, os ydych chi'n adnabod yr unigolyn neu beidio. Peidiwch â sefyll ar yr ochr, siaradwch yn erbyn ymddygiad gwrth-LHDTC+, a helpwch i greu cydraddoldeb mewn cymdeithas. 

Os clywch chi rywun yn defnyddio iaith bob dydd sy'n sarhaus i unrhyw aelod o'r gymuned LHDTC+, dylech chi ei herio. Efallai na fydd rhai pobl yn deall eu bod yn sarhaus, ond drwy fynd i'r afael â'u hymddygiad, gallwch helpu mwy o bobl i fod yn fwy cynhwysol ac i ddangos parch at bawb. 

Dilynwch ni