25 Medi 2024
Mae Diwrnod Fferyllwyr y Byd yn cael ei ddathlu bob blwyddyn ar 25 Medi a’r thema eleni yw ‘diwallu anghenion gofal iechyd byd-eang’.
Mae llawer o rolau fferyllwyr ar draws y Bwrdd Iechyd ac mae eu harbenigedd yn helpu i wneud y defnydd gorau o feddyginiaeth, atal rhyngweithiadau cyffuriau niweidiol a gwella canlyniadau i gleifion — gan gefnogi iechyd a lles ein cymunedau.
Dewch i gwrdd â rhai o’n fferyllwyr sy’n gweithio ar draws y BIP:
Andrew Li, Fferyllydd Cymunedol a Rheolwr Fferylliaeth
Rwyf wedi gweithio fel Fferyllydd Cymunedol a nawr Rheolwr Fferyllfa ers 19 mlynedd, gan gefnogi a gweithio ar draws tair fferyllfa gymunedol. Rwy'n mwynhau gweld fy nghleifion rheolaidd yr wyf wedi dod i'w hadnabod dros y blynyddoedd lawer rwyf wedi gweithio yng Nghaerdydd, mae'n braf gwybod eu bod yn parhau i ailymweld â'u fferyllydd lleol arferol.
Gall diwrnod arferol fod yn amrywiol iawn. Yn ogystal â gwirio presgripsiynau, rwy’n darparu llawer o gyngor dros y cownter ac yn darparu gwasanaethau GIG a phreifat gan gynnwys y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, dulliau atal cenhedlu brys a phigiadau ffliw tymhorol.
Nid yw llawer o bobl yn ymwybodol faint o wasanaethau sydd gan fferyllfa gymunedol safonol i'w cynnig. Rwy'n Fferyllydd-ragnodydd Annibynnol (PIP) cymwys, sy'n golygu fy mod yn gallu rhagnodi rhai meddyginiaethau o fewn cwmpas fy ymarfer ar gyfer anhwylderau lluosog a fyddai yn hanesyddol wedi golygu gwneud apwyntiad meddyg teulu.
Rwyf wrth fy modd bod rôl Fferyllydd Cymunedol bob amser yn newid ac yn esblygu. Rwyf wedi bod yn ffodus i fod yn rhan o fentrau amrywiol dros y blynyddoedd megis clinigau brechu oddi ar y safle ac mae’r rôl bob amser yn edrych i addasu i’r dirwedd bresennol a gwneud ei rhan i gefnogi’r GIG.
Simon Wilkins, Fferyllydd Practis Meddyg Teulu
Rwy'n Fferyllydd Rhagnodi mewn practis meddyg teulu yng Nghaerdydd, lle rwyf wedi gweithio ers dwy flynedd. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn cardioleg ac MSc mewn rheoli poen, ac rwy'n datblygu fy ymarfer ymhellach ym meysydd iechyd menywod a diabetes.
O ddydd i ddydd, mae fy rôl yn un brysur ac amrywiol. Rwy'n cynnal adolygiadau meddyginiaeth cyffredinol ar gyfer cleifion â salwch cronig ac adolygiadau arbenigol o gleifion â chyflyrau o fewn cwmpas fy ymarfer. Rwyf hefyd yn ymchwilio, yn gwneud diagnosis ac yn trin rhai cyflyrau fel pwysedd gwaed uchel a ffibriliad atrïaidd.
Rwyf hefyd yn rheoli’r gwaith o gychwyn, monitro a thitradu meddyginiaethau newydd a allai fod wedi cael eu hargymell gan ofal eilaidd ac yn ateb ymholiadau sy'n ymwneud â meddyginiaeth a allai fod gan gleifion a thîm ehangach y practis. Rwyf hefyd yn Athro Cyswllt mewn Fferylliaeth Glinigol a phan nad wyf yn y practis, rwy’n treulio fy niwrnodau yn addysgu a hyfforddi fferyllwyr israddedig, fferyllwyr sylfaen a Fferyllwyr-ragnodwyr Annibynnol.
Rwy'n hoffi’r amrywiaeth o gleifion a chyflyrau meddygol rwy'n eu gweld mewn ymarfer cyffredinol a gweithio gyda phobl mewn rôl wyneb yn wyneb. Mae bod yn rhan annatod o’r tîm gofal sylfaenol amlddisgyblaethol yn fy ngalluogi i ddefnyddio fy sgiliau ochr yn ochr â rhai HCPs eraill er budd y cleifion rydym yn eu trin.
Marian Jones, Fferyllydd Rhagsefydlu ar gyfer Clwstwr De-orllewin Caerdydd
Ar ôl gweithio mewn lleoliadau gofal eilaidd a chymunedol, dewisais bontio i ofal sylfaenol i ganolbwyntio ar ragsefydlu ac mae fy nghymhwyster Fferyllydd-ragnodydd Annibynnol yn fy ngalluogi i weithio’n annibynnol.
Fy rôl i yw optimeiddio iechyd cleifion ar y cam lle bydd amheuaeth o ganser a chyn ymyriadau meddygol mawr, megis llawdriniaeth. Rwy'n cynnal adolygiadau meddyginiaeth cynhwysfawr i sicrhau bod yr holl gyffuriau a ragnodwyd yn briodol ac i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau ymlyniad. Yn ogystal, rwy'n canolbwyntio ar optimeiddio iechyd trwy gynnal gwiriadau sgrinio allweddol gan gynnwys monitro pwysedd gwaed, rheoli glwcos, sgrinio ar gyfer anemia a phroffilio lipidau i asesu risgiau iechyd a gwneud y gorau o therapi meddyginiaeth.
Mae diwrnod arferol yn cynnwys rheoli clinigau rhithwir a chefnogi datblygiad parhaus y gwasanaeth. Er bod ein ffocws presennol ar gleifion yr amheuir bod canser arnynt, mae egwyddorion craidd rhagsefydlu megis rheoli meddyginiaeth, sgrinio iechyd, ac ymyriadau ffordd o fyw yn addasadwy a gallant wella canlyniadau ar draws disgyblaethau llawfeddygol amrywiol.
Nid yw llawer o bobl yn ymwybodol y gall fferyllwyr weithio'n rhithwir, ymarfer sydd wedi dod yn fwyfwy cyffredin. Mae gwasanaethau fferylliaeth rhithwir yn galluogi fferyllwyr i ddarparu gofal a chymorth hanfodol o bell, gan wneud gofal iechyd yn fwy hygyrch a chyfleus.
Tom Wyllie, Fferyllydd Arbenigol mewn Neonatoleg a Chlefyd Metabolaidd
Rwy’n arwain y tîm fferylliaeth ar yr Uned Gofal Dwys Newyddenedigol a fi yw’r Fferyllydd Pediatrig ar gyfer Gwasanaeth Clefydau Metabolaidd Etifeddedig Cymru Gyfan. Rwyf wedi gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ers 14 mlynedd ar draws fferylliaeth gymunedol a gofal eilaidd, ond rwy’n mwynhau’r gallu i arbenigo mewn maes cymhleth a heriol yn arbennig.
Rwy’n mynychu rownd ward gofal dwys newyddenedigol bob dydd gyda meddygon, nyrsys ac uwch ymarferwyr nyrsio newyddenedigol i roi cyngor ar ddosio a monitro’r meddyginiaethau a ddefnyddiwn yn y cleifion cymhleth hyn. Yn ystod rowndiau ward, byddwn hefyd yn penderfynu ar fformwleiddiadau ar gyfer maeth drwy’r gwythiennau (bwydo mewnwythiennol) ar gyfer babanod newydd-anedig unigol ac yna rwy'n paratoi’r archebion i'r rhain gael eu gwneud yn arbennig yn ein huned gweithgynhyrchu di-haint.
Rwyf hefyd yn rhoi cyngor i’r tîm metabolaidd ar feddyginiaethau ac yn helpu timau cymorth o bob rhan o Gymru i alluogi’r cyflenwad o gyffuriau metabolaidd prin mewn gofal sylfaenol ac eilaidd.
Nid dim ond cyfrif tabledi drwy’r amser y mae fferyllwyr yn ei wneud! Mae fferyllwyr yn arbenigwyr mewn meddyginiaethau, a’n nod yw gwneud meddyginiaethau’n fwy diogel ac yn fwy hygyrch ar gyfer yr holl arbenigeddau gwahanol mewn gofal eilaidd.
Alex Speakman, Fferyllydd Maeth drwy’r Gwythiennau
Rwy'n gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Uned Fferyllol St Mary’s ac yn arbenigo mewn maeth mewnwythiennol ac yn ddiweddar cefais fy mhenodi i swydd fferyllydd ymgynghorol newydd mewn methiant coluddol a chymorth maeth drwy’r gwythiennau.
Rwy'n adolygu cleifion mewnol sy'n cael maeth drwy’r gwythiennau (PN) ac yn rheoli cleifion â methiant coluddol sy'n byw yn y gymuned sy'n derbyn PN gartref. Gall hyn gynnwys addasu pob agwedd ar eu presgripsiwn PN a rhagnodi meddyginiaethau gofal cefnogol. Rwyf bellach hefyd wedi ymgymryd â mwy o rôl strategol, er enghraifft ysgrifennu canllawiau cenedlaethol a gwella’r gwasanaethau a ddarperir.
Mae gweithio mewn methiant coluddol yn faes lle gall fferyllwyr gael effaith sylweddol. Yn aml mae cleifion â methiant coluddol yn methu â chymryd meddyginiaethau rwy’r geg, neu mae ganddynt goluddyn byr nad yw'n amsugno meddyginiaethau drwy’r geg yn ddigonol, felly mae angen i chi ddefnyddio'ch gwybodaeth i ystyried atebion amgen i sicrhau bod cleifion yn cael budd o'u meddyginiaethau.
Sarah Mansfield, Uwch Dechnegydd mewn Treialon Clinigol
Rwy'n Uwch Dechnegydd yn Uned Fferyllol St Mary’s ac mae fy rôl yn cynnwys sefydlu treialon aseptig newydd, cynnal treialon presennol o ddydd i ddydd a chefnogi’r broses o gyflwyno gwasanaethau newydd fel ein gwasanaeth Cynnyrch Meddyginiaethol Therapi Datblygedig (ATMP).
Gall diwrnod arferol amrywio o baratoi cemotherapi IV, cynhyrchion treialon clinigol ac ATMPs i weithio gyda noddwyr a thimau amlddisgyblaethol i sefydlu treialon clinigol newydd wedi'u cynnal sy'n gofyn am waith paratoi aseptig. Rwy’n mwynhau’r agweddau technegol ar weithgynhyrchu a pharatoi fferyllol - rwy'n gwerthfawrogi bod yn ymarferol a gwneud rhywbeth o'r dechrau i'r diwedd.
Cyn ymuno ag SMPU fel cynorthwyydd fferyllol doedd gen i ddim syniad bod gwasanaethau aseptig fferyllol hyd yn oed yn bodoli! Cefais syndod pan wnes i ymuno a dysgu am y gwaith hynod arbenigol sy'n digwydd yn y gwasanaethau technegol.
Rhydian Phillips, Fferyllydd Sicrhau Ansawdd
Rwy'n gweithio yn Uned Fferyllol St Mary’s ac yn helpu i sicrhau bod y meddyginiaethau rydym yn eu cynhyrchu ac yn eu paratoi ar gyfer cleifion o fewn y Bwrdd Iechyd a ledled y DU yn ddiogel ac yn effeithiol ac yn cydymffurfio â chanllawiau rheoleiddio Ymarfer Gweithgynhyrchu Da.
Mae fy rôl bob dydd yn amrywiol, ond bydd yn cynnwys cyfuniad o waith rhyddhau cynnyrch, hyfforddi a gwirio personél a datblygu a gwerthuso cynhyrchion a dulliau gweithgynhyrchu newydd. Rwy'n ddiolchgar am allu helpu'r cleifion mwyaf agored i niwed o ddydd i ddydd drwy sicrhau eu bod yn derbyn eu meddyginiaeth.
Mae llawer o wasanaethau cudd o fewn y GIG sy’n sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal o ansawdd uchel, un agwedd ar hyn yw sicrhau ansawdd fferylliaeth. Rydym yn cadw cleifion yn ddiogel trwy reoli a monitro'r cynhyrchion a wnawn i sicrhau bod cleifion yn derbyn meddyginiaethau diogel ac effeithiol
Mari Lea-Davies, Fferyllydd Ffeibrosis Systig Arweiniol
Rwy'n gweithio o fewn tîm sy'n gofalu am bobl â Ffeibrosis Systig. Mae Ffeibrosis Systig yn gyflwr genetig lle mae mwcws yn cronni yn yr ysgyfaint, y system dreulio ac organau eraill.
Rwy'n helpu pobl i gael y gorau o'u meddyginiaethau. Mae fy rôl yn ymwneud â gofalu am bobl â Ffeibrosis Systig pan fyddant yn yr ysbyty, pan fyddant yn dod i apwyntiadau cleifion allanol a phan fyddant gartref. Rwy’n gwneud hyn drwy ateb cwestiynau sydd gan bobl am sut i gymryd eu meddyginiaethau, helpu pobl i gael cyflenwadau o’u meddyginiaethau, a’u galluogi i ddod o hyd i drefn feddyginiaeth sy’n cyd-fynd â’u bywydau bob dydd.
Meithrin cydberthnasau gyda'r bobl rydyn ni'n gofalu amdanyn nhw yw'r hyn rydw i'n ei fwynhau fwyaf. Gan fod Ffeibrosis Systig yn gyflwr gydol oes, rydw i'n gallu dod i adnabod y bobl rydyn ni'n gofalu amdanyn nhw dros nifer o flynyddoedd.