17 Medi 2024
Heddiw (17 Medi) yw #DiwrnodDiogelwchCleifionYByd; ymgyrch fyd-eang dan arweiniad Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) i godi ymwybyddiaeth o'r gwallau diagnostig sy'n cyfrannu at niwed i gleifion.
Thema eleni yw ‘Gwella diagnosis ar gyfer diogelwch cleifion’ ac er mwyn hyrwyddo gwerth diagnosis cywir, amserol a diogel o fewn ymarfer clinigol ar draws pob lefel o ofal iechyd, mae cydweithwyr o bob rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi bod yn ymgyrchu’n rhagweithiol mewn amrywiol ddigwyddiadau a fforymau, gan arddangos y datblygiadau diweddaraf mewn technoleg, deallusrwydd artiffisial ac arloesedd sy'n cynorthwyo clinigwyr i gefnogi gwell canlyniadau i gleifion.
Yn ddiweddar, gwnaethom fanylu ar rai mentrau blaenllaw a rôl arloesedd a deallusrwydd artiffisial sy'n cael eu defnyddio ar draws y bwrdd iechyd gan gynnwys Endosgopi Capsiwl ac Endsogopi drwy’r Trwyn, 'Brainomix', Clinig Diagnosis Cyflym a rheoli clwyfau digidol ymhlith eraill y gallwch ddod o hyd iddynt yma.
Mae wedi bod yn wych gweld cymaint o gydweithwyr yn ymwneud yn frwd â’r pwnc pwysig hwn ac mae’r nifer a gymerodd ran yn y fforwm gweithwyr nyrsio proffesiynol perthynol i iechyd yn ddiweddar, y rownd fawr a’r stondin farchnad ryngweithiol wedi bod yn rhyfeddol. Diolch.