Prosiect ymchwil i asesu budd sgrinio menywod beichiog ar gyfer Streptococci grŵp B. Mae hwn yn facteria y gellir ei drosglwyddo i faban yn ystod genedigaeth drwy'r wain. Mewn babanod gall Streptococcus Grŵp B arwain at anawsterau anadlu, anawsterau bwydo a thwymyn ac weithiau gall arwain at gymhlethdodau difrifol gan gynnwys sepsis, niwmonia a llid yr ymennydd. Mae'r prosiect ymchwil yn cynnwys sgrinio pob menyw feichiog a thrin â gwrthfiotigau i leihau'r risg o drosglwyddo, mae hefyd wedi cefnogi gwell dulliau o fonitro babanod ar ôl genedigaeth.