Neidio i'r prif gynnwy

Endosgopi Capsiwl

Mae endosgopi capsiwl yn driniaeth sy'n defnyddio camera diwifr bach i dynnu lluniau wrth iddo deithio trwy'r llwybr treulio. Ar ôl iddo gael ei lyncu, mae'r capsiwl yn cymryd miloedd o luniau sy'n cael eu hanfon at recordydd sy'n cael ei wisgo ar wregys o amgylch canol y corff.  Gellir defnyddio capsiwl i archwilio'r coluddyn bach a mawr ac mae'n ddewis arall yn lle archwiliadau endosgopi mwy mewnwthiol. Yn ogystal, mae'r offer a ddefnyddir yn caniatáu i'r driniaeth ddigwydd mewn modd hyblyg, ar wardiau neu yng nghartref y claf.

Dilynwch ni