Mae’r risg o gwympo yn aml-ffactoraidd ac mae atal fel arfer yn seiliedig ar asesu ffactorau risg lluosog (NICE 2013).
Mae angen i hanes o gwympiadau, cyflyrau (sy’n effeithio ar symudedd neu gydbwysedd, gwendid yn y cyhyrau, pwysedd gwaed, gwybyddiaeth a golwg, er enghraifft), amlgyffuriaeth a pheryglon amgylcheddol (fel matiau rhydd, golau gwael, arwynebau gwlyb/anwastad, esgidiau gwael) oll gael eu hystyried wrth asesu risg rhywun o gwympo.
Gall holi am hanes cwympiadau rhywun, asesu eu pwysedd gwaed wrth orwedd/sefyll, sgrinio am ddeliriwm gan ddefnyddio'r 4AT ac adolygu meddyginiaethau oll leihau'r risg o gwympo.