Neidio i'r prif gynnwy

Clinig Diagnosis Cyflym

Clinig Diagnosis Cyflym | Gwasanaethau Canser Meddygon Teulu

Nid yw tua 55% o gleifion â chanser yn dangos baner goch ond yn hytrach symptomau annelwig/amhenodol.  Sefydlwyd y Clinig Diagnosis Cyflym (RDC) y llynedd i sicrhau asesiad cyflym a diagnosis o gleifion â symptomau annelwig, gan gynnwys colli pwysau yn anesboniadwy/anfwriadol, colli archwaeth, blinder, poen yn yr abdomen neu gefn heb esboniad, cyfog, diffyg anadl a/neu ganlyniadau profion labordy annisgwyl.

Os yw meddygon teulu yn pryderu am symptomau cleifion, maent yn trefnu profion gwaed Set A a FIT coluddyn ac yn cyfeirio at yr RDC lle mae ganddynt fynediad cyflym at sganiau CT o'r thoracs, yr abdomen a'r pelfis. Bydd tua 10% o gleifion a gyfeirir yn cael diagnosis o ganser ac mae cleifion yn cael eu hatgyfeirio ar frys i’r arbenigedd priodol yn ôl yr angen ar gyfer ymchwiliad pellach a/neu driniaeth. Mae'r gwasanaethau'n cefnogi ymwybyddiaeth o'r symptomau hyn ymhlith gweithwyr proffesiynol ym maes Gofal Sylfaenol yn ogystal â'r cyhoedd. 

Dilynwch ni