11 Medi 2024
Gall gwallau diagnostig gael eu gohirio, eu methu neu fod yn anghywir a gallant ddigwydd ar bob cam o'r broses ddiagnostig ym mhob lleoliad gofal iechyd.
Trwy'r slogan poblogaidd “Gwnewch bethau'n iawn, gwnewch bethau'n ddiogel”, mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn apelio am ymdrechion ar y cyd i leihau gwallau diagnostig yn sylweddol trwy amrywiaeth o ymyriadau sydd wedi'u gwreiddio mewn meddylfryd systemau, ffactorau dynol ac ymgysylltu'n weithredol â chleifion, anwyliaid, gweithwyr iechyd ac arweinwyr gofal iechyd gyda’r pedwar amcan bras:
Gan gadw at thema Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd 2024; 'Gwella diagnosis er diogelwch cleifion', bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cynnal nifer o ddigwyddiadau ymwybyddiaeth yn y cyfnod yn arwain at y diwrnod swyddogol (17 Medi) i hyrwyddo gwelededd ymhlith cydweithwyr ac aelodau o'r gymuned ynghylch rôl arloesi a thechnoleg a gynorthwyir gan AI i leihau oedi a gwallau diagnostig.
I ddathlu #DiwrnodDiogelwchCleifionYByd, rydym yn cynnal digwyddiad Marchnad yn Ysbyty Athrofaol Cymru ddydd Gwener 13 Medi rhwng 12.30pm a 2pm. Cynhelir y digwyddiad yn y cyntedd y tu allan i'r darlithfeydd (gellir cyrraedd y cyntedd drwy'r Gegin neu drwy'r fynedfa gyferbyn â'r Ysgol Ddeintyddol) a bydd lluniaeth ar gael.
Dewch i ymuno â ni i ddysgu am rai o'r systemau arloesol sy'n cael eu defnyddio i gefnogi diagnosis amserol, effeithiol a diogel — gan gynnwys:
I gymryd rhan gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol swyddogol a defnyddio’r hashnod #DiwrnodDiogelwchCleifionYByd.