Neidio i'r prif gynnwy

Diwrnod Dim Tybaco y Byd: Dechreuwch ar eich taith i roi'r gorau i smygu ac ymrwymwch i stopio

2 Mehefin 2021

Mae tybaco yn achosi 8 miliwn o farwolaethau bob blwyddyn. Mae’r rhai hynny sy’n smygu hefyd yn fwy tebygol o ddatblygu achos difrifol o COVID-19. Os ydych chi’n smygu, yna rhoi’r gorau iddi yw’r peth gorau y gallwch chi ei wneud er mwyn gwella eich iechyd a’ch lles.

Ar Ddiwrnod Dim Tybaco y Byd, rydym yn annog pobl i wneud addewid i ymrwymo i stopio. Rydym yn deall nad yw hyn yn hawdd i nifer o bobl, ac os nad ydych hi’n siŵr ble i ddechrau, rydym yma i’ch cefnogi ar eich taith i fyw bywyd di-fwg.

Yng Nghaerdydd a’r Fro, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau gan gynnwys Helpa fi i Stopio i gefnogi ein poblogaeth i roi’r gorau i smygu. Mae Helpa fi i Stopio yn gweithio ledled Cymru, ac mae pobl bedair gwaith yn fwy tebygol o roi’r gorau i smygu am byth o ganlyniad i’r gefnogaeth am ddim a ddarperir gan y GIG.

Ar ôl cael cymorth pwrpasol gan Dîm Rhoi’r Gorau i Smygu y Bwrdd Iechyd, nid yw Kaidan Ashun, sy’n 22 oed ac yn dod o Gaerdydd, wedi smygu ers bron i 6 mis.

“Roeddwn i’n smygu dros gyfnod o tua 5 mlynedd, a hynny’n smygu weddol drwm. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, roeddwn i’n smygu yn agos at 20 sigarét bob dydd. Roedd smygu yn rheoli fy nhrefn ddyddiol, ac yn effeithio’n negyddol ar fy ngallu i hyfforddi a byw bywyd iach. Roedd hefyd yn faich trwm yn ariannol hefyd; roeddwn i’n aml yn gwario dros £70 yr wythnos ar dybaco.”

Ar ôl gweithio’n galed i roi’r gorau i smygu, mae Kaidan eisoes yn gweld y manteision o ran iechyd ac yn ariannol.

“Fy mhrif reswm dros roi’r gorau i smygu oedd yr effaith roedd yn ei gael ar fy ngallu i fyw bywyd iach. Rydw i’n treulio llawer o amser yn hyfforddi yn y gampfa, ac yn ceisio gwella fy ffitrwydd; fodd bynnag mae smygu wedi gwneud hynny’n anodd iawn. Dydw i heb smygu ers bron i 6 mis ac rydw i’n teimlo’n wych. Mae fy lefelau dygnwch yn y gampfa wedi cynyddu’n helaeth yn ogystal â fy ffitrwydd a fy anadlu’n gyffredinol wrth hyfforddi.”

“Dydw i ddim bellach o dan gyfyngiadau ariannol tybaco ac mae gen i fwy o arian dros ben i wario ar bethau rydw i’n eu mwynhau ac a fydd o fudd i fi!”

Mae smygu’n gallu cynyddu eich risg o glefyd gan gynnwys clefyd y galon a dros 20 math o ganser. Pan gafodd Alison, sy’n 55 oed o Laneirwg, ddiagnosis o glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD), a chapasiti ei hysgyfaint yn 56% yn unig bellach, cafodd ei chymell i roi’r gorau i smygu am byth.

“Dyfalbarhewch, mae’n werth yr ymdrech. Bu’n rhaid i mi ddechrau eto cymaint o weithiau, ond fe wnes i ddal ati a llwyddo i roi’r gorau iddi. Y tro hwn, rydw i’n gwybod ei fod am byth. Mae bywyd yn well o lawer.”

“Mae fy lles cyffredinol wedi gwella, er fy mod i’n dal i gael ysfa achlysurol ar ddiwedd y dydd wrth eistedd a mwynhau diod. Rydw i nawr yn gwybod sut i reoli’r ysfeydd hyn drwy dynnu fy sylw a chofio am fy malchder fy hun o ran pa mor dda rydw i wedi gwneud – dydw i ddim eisiau sbwylio hynny.”

 

Ble gallaf ddod o hyd i gymorth?

Pecyn Cymorth i Roi’r Gorau i Smygu Sefydliad Iechyd y Byd - I gael cyngor hawdd i’w ddilyn am ddim, lawrlwythwch Pecyn Cymorth i Roi’r Gorau i Smygu Sefydliad Iechyd y Byd drwy glicio yma.

Helpa fi i Stopio - Gellir dod o hyd i gymorth i roi’r gorau i smygu gan y GIG ledled Cymru mewn lleoliadau cymunedol lleol, meddygfeydd teulu, ysbytai a fferyllfeydd, a gellir cael mynediad at gymorth dros y ffôn hyd yn oed. Gallwch ddysgu ble i ddod o hyd iddynt yn eich ardal drwy roi eich cod post yma neu drwy ffonio 0800 085 2219.

Ni waeth pa wasanaeth rydych chi’n penderfynu ei ddefnyddio a phwy bynnag rydych chi’n ei weld, mae’r holl wasanaethau Helpa fi i Stopio yn rhad ac am ddim, gan gynnwys y feddyginiaeth rhoi’r gorau i smygu, ac fe’u cyflwynir gan arbenigwyr, heb feirniadaeth ac yn gyfrinachol.

Y dewis gorau y gall smygwr ei wneud i roi’r gorau i smygu yw cysylltu â Helpa fi i Stopio’n uniongyrchol neu ofyn i gael ei gyfeirio gan weithiwr iechyd proffesiynol. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Ffoniwch: 0800 085 2219 | Tecstiwch HMQ at 80818 i gael galwad ffôn yn ôl* mae’n bosibl y codir tâl

 

17/06/2021

Dilynwch ni