21 Gorffennaf 2023
Cynhelir Diwrnod Adsefydlu ICU ddydd Gwener 21 Gorffennaf a’i nod yw tynnu sylw at bwysigrwydd adsefydlu i gleifion allu adfer yn y ffordd orau yn dilyn salwch critigol.
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, mae tîm mawr o weithwyr meddygol a gofal iechyd proffesiynol yn rheoli’r llwybr gofal ar gyfer adsefydlu. Mae hyn yn dechrau o ofal critigol yn y wardiau, yr holl ffordd at ofal a chymorth yn y gymuned ar ôl eu rhyddhau.
Mae’r tîm amlddisgyblaethol yn rhan allweddol o ddarparu gwasanaethau adsefydlu ac adfer, o ofal critigol hyd at ddychwelyd i’r gymuned. Mae hyn yn cynnwys nyrsys, meddygon a Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol Cymwysedig, gan gynnwys deietegwyr, therapyddion galwedigaethol, seicolegwyr, ffisiotherapyddion, therapyddion lleferydd ac iaith a fferyllwyr.
Mae’r gwaith a wnaed gan gydweithwyr wedi arwain at welliannau enfawr i brofiad y claf a chanlyniadau’r rhai sy’n cael eu derbyn i ofal critigol, yn enwedig y rhai sy’n cael eu derbyn am gyfnod hir a’r rhai sydd ag anghenion adsefydlu uchel.
Fel rhan o Ddiwrnod Adsefydlu ICU, bu’r Farwnes Ilora Finlay o Landaf (Llywydd Cymdeithas Siartredig y Ffisiotherapyddion) yn ymweld ag Ysbyty Athrofaol Cymru i gwrdd â Meddygon Ymgynghorol, Arbenigwyr Clinigol a chleifion i glywed mwy am waith y llwybr Gofal Adsefydlu.
Roedd yr ymweliad hefyd yn gyfle i drafod datblygiadau ar draws GIG Cymru gan gynnwys cyflwyno manyleb gwasanaeth gofal critigol GIG Cymru newydd a rhaglen genedlaethol ar gyfer mesurau canlyniadau a adroddwyd gan gleifion (PROMS).
Wrth fyfyrio ar ei hymweliad, dywedodd y Farwnes Finlay: “Mae’r gydnabyddiaeth o bwysigrwydd llwybr y claf yn drawiadol iawn, ac mae’r ffordd y mae’r tîm cyfan yn gweithio gyda’i gilydd i wella sgiliau pob aelod o’r tîm yn hynod amlwg.”