Pan gafodd Uned David Thomas (DTU) fewnlifiad o bobl ifanc fel cleifion, roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gwybod ei bod yn bwysicach nag erioed i gael adnodd ar gyfer pobl ifanc sydd angen dialysis.
Dyma Rebecca 'Becky' Frew: gweithiwr ieuenctid arennol i gleifion 15-25 oed. Rôl Becky o fewn y Bwrdd Iechyd yw bod yn eiriolwr ar gyfer pobl ifanc sy'n cael dialysis a thrawsblaniadau.
Wrth ymweld â chleifion ifanc ble bynnag y maent yn y broses drawsblannu, gellir dod o hyd i Becky yn y DTU a safleoedd dialysis lloeren eraill wrth iddi ddarparu cymorth yn gymdeithasol, yn emosiynol ac yn academaidd. Mae hi hefyd yn helpu i gefnogi rhieni i ymdopi â'r anghenion ychwanegol sy'n gysylltiedig â chlefyd cronig yr arennau (CKD).
Mae clefyd cronig yr arennau (CKD) yn gyflwr hirdymor lle nad yw'r arennau'n gweithio cystal ag y dylent.
Mewn oedolion, mae clefyd cronig yr arennau yn aml yn cael ei achosi gan gyflyrau eraill sy'n rhoi straen ar yr arennau, fel diabetes, neu bwysedd gwaed uchel, fodd bynnag mae pobl ifanc â CKD yn fwy tebygol o fod wedi cael eu geni ag annormaleddau yn yr arennau, neu wedi datblygu clefydau hunanimiwn mwy prin yn yr arennau.
Bydd llawer o bobl sydd â chlefyd cronig yr arennau yn cael eu trin â dialysis - proses sy'n cael gwared ar wastraff a hylif ychwanegol yn y gwaed a fyddai fel arfer yn cael ei hidlo gan yr arennau.Gall bod ar ddialysis fod yn gyfyngol. Gall rhywun gael ei glymu'n gorfforol i beiriant hyd at 3 gwaith yr wythnos, am 4 awr.
Gall eu cymeriant hylif a'u deiet fod yn gyfyngedig, yn ogystal â bod ar feddyginiaeth ar gyfer gwrthimiwnedd.
Fel gweithiwr ieuenctid arennol, mae Becky yn gallu gweld y bobl ifanc yn cael dialysis am gyfnod hirach o amser. Mae hyn yn golygu y gall feithrin cydberthnasau cryfach, cymryd yr amser i ddeall y cleifion fel unigolion a theilwra cymorth i bob person.
Gall llencyndod fod yn anodd hyd yn oed heb glefyd cronig yr arennau. Mae ei chefndir mewn cymorth emosiynol, rheoleiddio emosiynol a sut i ddelio â thrawma yn ei helpu i sicrhau bod y bobl ifanc y mae hi'n eu gweld yn magu hyder, gan roi sicrwydd iddynt eu bod yn fwy na'u salwch. Mae Becky yn annog pobl ifanc i reoli eu hiechyd eu hunain a bod yn annibynnol wrth reoli dialysis gartref.
Gan gefnogi mewn ffyrdd eraill, mae Becky yn trefnu digwyddiadau i bobl ifanc ar ddialysis. Mae gallu siarad â phobl ifanc eraill sy'n profi sefyllfaoedd tebyg yn bwerus. Yn ei rôl fel gweithiwr ieuenctid, mae hi wedi annog cleifion i fynd ar daith oddi cartref yn llawn gweithgareddau gyda dialysis wedi’i drefnu ar eu cyfer tra eu bod yno, ac mae wedi dweud bod cleifion yn dod yn ôl gyda mwy o hyder ac yn gallu siarad am eu hanghenion meddygol yn fwy rhwydd.
Gan gydnabod y gall deietau fod yn gyfyngol, mae Becky hefyd wedi trefnu i glaf ymuno â Kidney Care UK Kidney Kitchen, sef tîm o gogyddion a deietegwyr sy'n creu ryseitiau wedi'u cynllunio'n arbennig sy'n addas ar gyfer pobl â CKD. Fe wnaethant greu rysáit a byddant yn eu gweld eto am fwy o goginio ar gyfer deietau arbenigol maes o law.
Mae Becky hefyd yn annog y cleifion y mae’n gweithio gyda nhw i ddilyn eu diddordebau ac mae hefyd wedi helpu person ifanc yn ddiweddar i fynegi ei brofiad o CKD trwy gyfrwng cân, a recordiwyd yng Nghanolfan Gymunedol Cathays.
Mae'n bwysig bod pobl ifanc â chlefyd cronig yr arennau yn gwybod eu bod yn gallu cael mwy o gymorth na dim ond y tîm meddygol yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Er bod CKD yn gallu bod yn anodd ei reoli, mae Becky yn eu helpu i ddeall eu bod yr un fath ag unrhyw berson ifanc arall sydd ag anghenion a dyheadau ac yn gallu mwynhau bywyd i'r eithaf er gwaethaf eu cyflwr.
Dywedodd Diana de Mejer, claf sy’n oedolyn ifanc a fynychodd y daith breswyl gyda chefnogaeth ac anogaeth Becky: “Cyn mynd ar y cwrs preswyl, doeddwn i ddim wedi siarad ag unrhyw un o’m hoedran fy hun am fod ar ddialysis, na hyd yn oed wedi gadael Caerdydd, felly roedd hwn yn gyfle gwych i mi greu rhwydwaith cymorth gan gymheiriaid ac rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle ac fe wnaeth y profiad gael effaith fawr arnaf.”
Dywedodd Alexa Wonnacott, Arenegwr Ymgynghorol ar gyfer Uned Dialysis David Thomas: “Mae cael gweithiwr cymdeithasol arennol penodedig ar gyfer y garfan hon wedi bod yn drawsnewidiol; rydym wedi gweld gwelliannau nodedig mewn hyder ac annibyniaeth gyda llawer o'n cleifion ieuengaf yn cymryd perchnogaeth o'u triniaeth dialysis trwy gymryd rhan yn ein rhaglen dialysis gofal a rennir.
“Mae gennym hefyd gleifion sy’n oedolion ifanc sydd â diddordeb mewn bod yn fentoriaid cymheiriaid i eraill sy’n dechrau ar eu taith dialysis neu drawsblaniad. Mae’r cleifion a’r uned gyfan wedi elwa’n fawr ar frwdfrydedd a chefnogaeth Becky, ac edrychaf ymlaen at weld yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd yn 2025.”
Dywedodd Jodie, rhiant person ifanc â CKD: “Mae Becky wedi bod yn ffynhonnell anhygoel o gryfder a chefnogaeth i Dylan trwy gydol ei salwch, gan sefyll wrth ei ymyl yn ystod ei amseroedd anoddaf yn yr ysbyty.
“Mae hi wedi rhoi cymorth emosiynol cyson, gan ei helpu i ymdopi â’r heriau meddyliol ac emosiynol sy’n rhan o fod yn sâl. Mae ei thosturi a’i hymroddiad wedi bod yn amhrisiadwy, gan ei bod hi wedi cynnig cysur, anogaeth a chariad yn gyson, ac wedi aros yn gryf bob amser, hyd yn oed pan gafodd Dylan drafferth gyda’i gyflwr meddwl.
“Mae ei phresenoldeb wedi chwarae rhan hollbwysig yn nhaith Dylan, gan roi’r gwytnwch a’r gobaith iddo barhau i symud ymlaen.”
Parhaodd Jodie: “Hoffwn fynegi fy niolch i Becky am fod yno i mi hefyd. Mae hi bob amser yn mynd gam ymhellach i sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth yn ystod y cyfnod heriol hwn. Hyd yn oed pan nad ydym yn yr ysbyty, mae'n cymryd yr amser i gysylltu â ni, gan gynnig cefnogaeth a gofal."
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer cynyddol o bobl wedi cynnig un o’u harennau’n ddienw i rywun ar y Rhestr Trawsblannu Genedlaethol. Mae person byw sy'n rhoi un o'i arennau i rywun nad yw'n ei adnabod yn cael ei alw'n rhoddwr anhunanol heb gyfarwyddyd.
Os yw rhoi yn eich natur chi, byddai eich rhodd o fudd i gynifer o bobl â phosibl ar y rhestr aros. Gall eich rhodd arennau ei gwneud hi'n bosibl i hyd at dri o bobl gael trawsblaniad, na fyddent wedi cael y cyfle fel arall.
Mae rhoi aren yn benderfyniad mawr. Os ydych chi'n meddwl bod hyn yn rhywbeth y gallwch chi ei wneud, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod beth mae'n ei olygu a beth a ddisgwylir gennych chi.
Os hoffech chi barhau, e-bostiwch Live.donor.cav@wales.nhs.uk i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi ymrwymo i wrando, dysgu ac arwain mewn partneriaeth â phlant, pobl ifanc, teuluoedd, cydweithwyr a phartneriaid. Yn ystod hydref 2024, lansiwyd ein Cynllun Babanod, Plant a Phobl Ifanc fel rhan o Llunio ein Gwasanaethau Clinigol i’r Dyfodol, un o'r rhaglenni sy'n rhan o'n strategaeth gyffredinol.
Yn unol â gweledigaeth ein bwrdd iechyd, ein huchelgais yw darparu gofal rhagorol i fabanod, plant a phobl ifanc. Byddwn yn sicrhau canlyniadau a phrofiad i bawb sy'n cymharu â'r sefydliadau cymheiriaid sy'n perfformio orau. Byddwn yn darparu gofal di-dor, amserol ac arbenigol i bob babi, plentyn a pherson ifanc, gan sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl.
Trwy fuddsoddi yn ein timau, gwneud y defnydd gorau o'n hadnoddau, gwella ein cyfleusterau a chroesawu dulliau arloesol, rydym yn ymroddedig i drawsnewid profiadau gofal iechyd, meithrin gwytnwch, a gwella canlyniadau a phrofiad i bawb.