11 Mawrth 2025
Ar 11 Mawrth 2025, cyhoeddodd Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, fod statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi cynyddu i Lefel 4 (ymyrraeth wedi'i thargedu) ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio.
Dywedodd Suzanne Rankin, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Mae statws uwchgyfeirio’r Bwrdd Iechyd wedi cynyddu i Lefel 4 (ymyrraeth wedi’i thargedu) ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio ac mae’n aros yr un peth ym mhob maes arall.
“Mae’r penderfyniad hwn wedi’i wneud o ganlyniad i leihad mewn lefelau hyder ynghylch sefyllfa ariannol y Bwrdd Iechyd a’r diffyg a ragwelir ar gyfer 2024/25, a phryderon ynghylch gallu’r Bwrdd Iechyd i ddatblygu a chyflawni cynlluniau yn ystod y flwyddyn i liniaru neu leihau’r diffyg a ragwelir.
“Er ei bod yn siomedig bod y statws uwchgyfeirio wedi cynyddu, bu cryn ymdrech gan gydweithwyr ar draws y sefydliad i wella’r sefyllfa ariannol a deall a dysgu wrth i’r flwyddyn ariannol nesaf agosáu.
“Rydym yn gwybod bod yn rhaid gwneud mwy o waith, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i drawsnewid y diffyg a gwella ansawdd, effeithlonrwydd a chynhyrchiant ar draws y sefydliad. Bydd y Bwrdd Iechyd yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r heriau hyn a lleihau statws uwchgyfeirio’r sefydliad.
“Rydym yn cydnabod bod ein sefyllfa gofal wedi’i gynllunio a diagnosteg drwy gydol y flwyddyn yn is na’r disgwyl ac yn deall yr effaith y mae hyn yn ei chael ar gleifion. Mae’r Bwrdd Iechyd yn rhoi cynllun gwella ar waith i ysgogi cynnydd o ran lleihau amseroedd aros, ac mae’n galonogol bod mis Ionawr 2025 wedi gweld gostyngiad yn nifer cyffredinol y cleifion sy’n aros mwy nag wyth wythnos am ddiagnosteg.
“Rydym yn croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru o’n perfformiad cryf o ran canser a gofal brys, a hoffwn achub ar y cyfle hwn i gydnabod ymrwymiad ac ymdrechion rhagorol ein holl gydweithwyr a phartneriaid.”
Gallwch ddarllen y datganiad ysgrifenedig llawn gan Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar wefan Llywodraeth Cymru.