Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ynghylch pwysau ar wasanaethau mamolaeth

28 Tachwedd 2022 

Uned dan Arweiniad Bydwragedd:  

Statws presennol: Ar agor 
Mae hyn yn cael ei adolygu’n ddyddiol.  

Gwasanaethau geni yn y cartref:  

Statws presennol: Wedi’u hatal dros dro 
Mae hyn yn cael ei adolygu’n wythnosol 

Mae ein Bwrdd Iechyd yn parhau i wynebu pwysau eithafol ar draws gwasanaethau sy'n cynnwys mamolaeth. Yn anffodus, ym mis Gorffennaf bu'n rhaid i'r Bwrdd Iechyd wneud y penderfyniad anodd i atal gwasanaethau geni yn y cartref tan fis Hydref 2022 er mwyn lleddfu pwysau'r gweithlu mewn lleoliadau bydwreigiaeth mewn ysbytai. Mae’r gwasanaethau geni yn y cartref wedi’u hatal dros dro o hyd, ond mae’r mae'r tîm wedi ymrwymo i wneud eu gorau i ailsefydlu gwasanaeth geni yn y cartref cyn gynted â phosib. 

Gwnaed y penderfyniad i atal gwasanaethau geni yn y cartref dros dro i roi’r cyfle gorau posibl i ni gadw'r Uned Dan Arweiniad Bydwragedd ar agor a sicrhau ein bod yn gallu cynnal gwasanaethau diogel. Mae materion yn ymwneud â'r gweithlu yn her sylweddol oherwydd salwch nad yw’n gysylltiedig â COVID a swyddi gwag staff. Mae achosion o COVID-19 hefyd yn cynyddu yn y gymuned ac mewn ysbytai sydd hefyd yn rhoi mwy o bwysau.  

Hoffem ymddiheuro’n ddiffuant i’r teuluoedd y gwnaeth atal y gwasanaeth geni yn y cartref a chau'r Uned Dan Arweiniad Bydwragedd yn ysbeidiol effeithio arnynt. Rydym yn deall y gall hyn fod yn annifyr ac er ein bod yn gwneud pob ymdrech i gadw'r uned ar agor, mae rhai dyddiau lle efallai na fyddwn yn gallu gwneud hyn oherwydd diogelwch.   

Mae ein gallu i gynnal y gwasanaethau hyn yn ddiogel ar gyfer menywod, pobl sy'n geni a'u teuluoedd yn parhau i gael ei adolygu'n barhaus. Mae ein timau'n gweithio'n ddiflino i gynnal y ddarpariaeth orau posibl, ond oherwydd pwysau sy'n gysylltiedig â'r pandemig, mae'n rhaid i ni reoli gwasanaethau i'n galluogi i barhau i ddarparu'r gofal gorau posibl, a’n blaenoriaeth ni yw sicrhau diogelwch ein gwasanaethau bob amser. Ymddiheurwn am yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar bobl sy'n defnyddio ein gwasanaethau. Yn ddiweddar rydym wedi recriwtio 29 o fydwragedd newydd sydd wedi dechrau ymuno â ni a fydd yn helpu i leddfu rhywfaint o'r pwysau. 

Hoffem roi sicrwydd i fenywod a phobl sy’n geni sydd â chynlluniau geni dan arweiniad bydwragedd y bydd y rhain yn parhau i gael eu dilyn, ond mewn rhai achosion gallant fod mewn amgylchedd gwahanol. Bydd gofal un-i-un wrth esgor yn cael ei gynnal a bydd arbenigedd mewn gofal dan arweiniad bydwragedd yn dal i fod ar gael yn y brif ystafell esgor, sy'n cynnig mynediad cyfyngedig i gyfleusterau geni mewn dŵr.  

Anogir pob menyw a pherson sy’n geni i drefnu bod eu man esgor a geni yn gyfforddus ac yn bersonol iddyn nhw, a byddant yn cael eu cefnogi i wneud hynny gan ein bydwragedd. Mae mesurau atal a rheoli heintiau yn parhau i fod yn eu lle i helpu i'ch cadw'n ddiogel.  

Os ydych chi am drafod eich opsiynau ymhellach, cysylltwch â'ch bydwraig. Diolch i'n staff ymroddedig sy'n parhau i fynd gam ymhellach i ddarparu gofal eithriadol i'n cleifion, a diolch i'n poblogaeth am eich cydweithrediad a'ch cefnogaeth barhaus.

Dilynwch ni