Ar hyn o bryd nid oes unrhyw achosion a amheuir nac achosion a gadarnhawyd o lid yr ymennydd yn Ne Cymru nac yn unrhyw le arall yng Nghymru sy'n gysylltiedig â'r brigiad o achosion yng Nghaint. Mae gwybodaeth wedi'i diweddaru am yr achosion yng Nghaint ar gael gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU.
Rydym yn argymell bod pobl ifanc, rhieni a theuluoedd yn ymgyfarwyddo ag arwyddion a symptomau llid yr ymennydd a sepsis.
Gall y cyflyrau hyn ddatblygu'n gyflym o symptomau ysgafn i salwch difrifol. Mae babanod, plant ifanc, pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc (yn enwedig y rhai mewn lleoliadau cysylltiad agos fel colegau a phrifysgolion) yn wynebu risg uwch.
Gall nifer o wahanol fathau o facteria achosi llid yr ymennydd bacterol. Mae nifer o frechiadau yn yr amserlen frechu reolaidd yng Nghymru yn cynnig amddiffyniad rhag llid yr ymennydd.
Er mwyn cael yr amddiffyniad gorau rhag salwch y gellir ei atal, mae'n hanfodol bod plant a phobl ifanc wedi'u brechu'n llawn. Mae manylion amserlen frechu reolaidd y GIG yng Nghymru ar gael yma.
Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg, Saesneg a Iaith Arwyddion Prydain (BSL) via SignVideo.
We welcome phone calls in Welsh, English and British Sign Language via via SignVideo.