Neidio i'r prif gynnwy

Disgyblion ysgol gynradd yn hyrwyddo pwysigrwydd y brechlyn ffliw chwistrell trwyn mewn fideos TikTok newydd

23 Hydref 2024

Mae plant ysgol gynradd wedi ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i hyrwyddo pwysigrwydd y brechlyn ffliw chwistrell trwyn.

Bob blwyddyn mae Tîm Imiwneiddio Nyrsio Ysgol Caerdydd a’r Fro yn ymweld â holl ysgolion cynradd ac uwchradd y rhanbarth i roi’r brechlyn i blant rhwng oedran Derbyn a Blwyddyn 11.

Anogir rhieni a gofalwyr i gadw llygad am ffurflenni caniatâd o ysgol eu plentyn, ynghyd â’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r ffurflen. Fodd bynnag, bydd unrhyw ffurflenni hwyr a gyflwynir yn cael cynnig apwyntiad mewn clinig dal i fyny cymunedol.

Er mwyn helpu rhieni a phlant i deimlo’n gartrefol ynglŷn â’r brechiad, bu disgyblion Ysgol Glan Ceubal yn Gabalfa, Caerdydd, yn gweithio gyda’r Bwrdd Iechyd i gynhyrchu dau fideo byr ar gyfer TikTok a Facebook yn egluro’r broses “syml”.

Roedd un o’r fideos yn cynnwys nyrs imiwneiddio mewn ysgolion, Ceren Brett, a amlinellodd y “pum rheswm pam mai’r brechlyn ffliw chwistrell trwyn yw’r peth LLEIAF brawychus am Galan Gaeaf”. Gallwch wylio’r fideo drwy fynd i gyfrifon swyddogol Facebook a TikTok BIP Caerdydd a’r Fro.

“Y chwistrell drwynol yw’r brechlyn ffliw orau i blant. Mae’n ddi-boen, un chwistrelliad ym mhob ffroen - easy peasy,” meddai yn y fideo. “Rydym hefyd yn dîm o nyrsys wedi ein hyfforddi a byddwn yn gwneud i bob plentyn deimlo’n gartrefol.

“Gall y brechlyn ffliw leihau’r risg o gymhlethdodau difrifol fel broncitis a niwmonia. Mae hefyd yn amddiffyn pobl sy’n agored i niwed o’ch cwmpas gan gynnwys babanod, menywod beichiog a phobl hŷn.

“A’r peth gorau i gyd yw y bydd pawb sy’n cael brechlyn yn yr ysgol yn cael cynnig sticer – a phwy sydd ddim yn caru sticer?”

Disgrifiwyd y brechlyn gan ddisgyblion Ysgol Glan Ceubal a fu’n rhan o’r ffilmio fel un “cyflym iawn” a oedd yn “cosi ychydig”, a chanmol y nyrsys imiwneiddio am eu natur garedig a gofalgar.

Cafodd Rhaglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol (WRVP) ar gyfer 2024/25 ei lansio yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ym mis Medi 2024.

 

Mae’r rhestr lawn o grwpiau cymwys ar gyfer y brechlyn rhag y ffliw rhad ac am ddim fel a ganlyn:

  • Plant dwy a thair oed ar 31 Awst, 2024
  • Plant yn yr ysgol gynradd o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 6 (cynhwysol)
  • Plant yn yr ysgol uwchradd o flwyddyn 7 i flwyddyn 11 (cynhwysol)
  • Pobl rhwng 6 mis a 64 oed mewn grwpiau risg glinigol
  • Pobl 65 oed ac yn hŷn (oedran ar 31 Mawrth, 2024)
  • Menywod beichiog
  • Gofalwyr sy’n 16 mlwydd oed ac yn hŷn
  • Pobl rhwng 6 mis a 65 oed sy’n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan
  • Pobl ag anabledd dysgu
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  • Yr holl staff mewn cartrefi gofal sydd â chyswllt rheolaidd â chleientiaid

Ar wahân i ddisgyblion ysgol, bydd pob person cymwys yn cael eu gwahodd i dderbyn y brechiad rhag y ffliw naill ai yn eu practis meddyg teulu, fferyllfa leol neu glinig brechu cymunedol agosaf.

Mae’r brechlyn ffliw chwistrell trwyn yn cynnwys olion o gelatin moch wedi’i buro a ddefnyddir hefyd mewn amrywiaeth o feddyginiaethau hanfodol. Fodd bynnag, nid yw pigiadau ffliw yn cynnwys gelatin felly os byddai’n well gan rieni ddewis yr opsiwn hwn i’w plentyn, cysylltwch â’u meddygfa i osgoi colli’r cyfle.

I gael rhagor o wybodaeth am gelatin moch a’r brechlyn, ewch i phw.nhs.wales/PorcineGelatine/

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen brechu rhag y ffliw a COVID-19 yng Nghaerdydd a’r Fro, ewch i dudalen we brechlyn ffliw a brechlyn COVID-19 hydref/gaeaf 2024/25.

Dilynwch ni