28 Ebrill 2025
Mae Diogel yn y Cartref yn cefnogi pobl ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg i dderbyn gofal brys gartref pan mae’n ddiogel gwneud hynny, yn lle mynd i’r ysbyty. Mae hyn yn rhoi profiad gwell i bobl ac yn lleihau'r pwysau ar y gwasanaethau brys. Nawr, gyda chyflwyniad teleiechyd, bydd hyd yn oed mwy o bobl yn gallu byw'n annibynnol, yn ddiogel ac ag urddas gartref.
Mae Diogel yn y Cartref yn wasanaeth ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg. Mae'n cynnig dewis arall diogel ac uniongyrchol yn lle cael eich cludo i'r uned achosion brys mewn ambiwlans neu gael eich derbyn i'r ysbyty.
Ers ei lansio ym mis Ionawr 2024, mae'r gwasanaeth wedi cefnogi mwy na 1,000 o bobl ac wedi helpu i arbed mwy na 9,200 o ddyddiau gwely mewn ysbyty.
I lawer o bobl, yn enwedig y rhai sy’n oedrannus neu’n fregus, gall derbyn gofal gartref pan fo’n bosibl, fod yn fwy diogel gan y gall arhosiad hir yn yr ysbyty gynyddu’r risg o golli annibyniaeth, dal haint a gwaethygu ymhellach. Mae Diogel yn y Cartref yn canolbwyntio ar gefnogi'r rhai sydd fwyaf mewn perygl o fod yn yr ysbyty am amser hir.
Atgyfeiriwyd Susan o Benarth at y gwasanaeth Diogel yn y Cartref gan GIG 111 Cymru ym mis Rhagfyr 2024 yn dilyn cwymp a dirywiad graddol. Roedd Susan eisiau aros gartref oherwydd nad oedd am fentro dirywio ymhellach na cholli ei hannibyniaeth. Gyda chymorth Diogel yn y Cartref, llwyddodd i wella yng nghysur ei chartref ei hun.
Dywedodd Susan: “Roedd y meddygon, nyrsys, ffisiotherapyddion yn dod yn ôl ac ymlaen i’m helpu gyda fy adferiad, a heb gymorth y gwasanaeth, ni fyddwn yn eistedd yn y gadair hon heddiw. Rydw i mor ddiolchgar, y rheswm pam dwi’n gallu byw fel yr wyf yn byw heddiw yw oherwydd y gofal a’r sylw y mae’r tîm wedi’i roi i mi.”
O 28 Ebrill 2025, bydd Diogel yn y Cartref yn cyflwyno teleiechyd i gefnogi mwy o gleifion i aros gartref neu adael yr ysbyty cyn gynted â phosibl. Bydd y fenter ar y cyd â’r gyfarwyddiaeth Trawsnewid Gwerth o fewn Gweithrediaeth GIG Cymru yn caniatáu i glinigwyr Diogel yn y Cartref fonitro cleifion o bell yn ddiogel a darparu cyngor neu gymorth clinigol os oes angen.
Bydd cleifion sy'n optio i mewn yn derbyn blwch offer pwrpasol a ddarperir gan Doccla. Yn dibynnu ar eu hanghenion, gall gynnwys dyfeisiau sy'n monitro cyfradd curiad y galon, cyfradd resbiradaeth, tymheredd y corff, lefelau ocsigen gwaed a phwysedd gwaed.
Dywedodd Cath Doman, Cyfarwyddwr Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro: “Mae’r gwasanaeth Diogel y y Cartref yn rhan hanfodol o’n hymrwymiad fel partneriaid i alluogi pobl i fyw’n annibynnol, yn ddiogel ac ag urddas yn eu cartrefi eu hunain. Drwy waith partneriaeth cryf ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, tai a’r trydydd sector, rydym yn sicrhau newid gwirioneddol, cadarnhaol i bobl ledled Caerdydd a’r Fro. Mae’n ymwneud â chael y cymorth iawn, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn—a sicrhau bod hyn gartref lle bynnag y bo modd.
“Mae technoleg yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn hyn i helpu pobl, a’r tîm sy’n eu cefnogi, i fonitro eu hiechyd, gan ei wneud hyd yn oed yn fwy ymatebol a hygyrch i’r rhai sydd ei angen fwyaf.”
Ychwanegodd Rachel Lee, Cyfarwyddwr y Bwrdd Clinigol ar gyfer Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Chanolraddol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Mae Diogel yn y Cartref yn enghraifft wych o sut mae'r Bwrdd Iechyd yn cydweithio â sefydliadau partner i sicrhau ein bod yn gofalu am bobl yn y lle iawn. Trwy gefnogi pobl i aros gartref pan mae'n ddiogel gwneud hynny, mae cleifion a'u teuluoedd yn cael profiad llawer gwell a gallwn atal derbyn pobl i’r ysbyty yn ddiangen.
"Mae cyflwyno teleiechyd yn dod â'r Bwrdd Iechyd yn agosach at ddarparu system integredig ddi-dor ar gyfer gofal brys yn y gymuned a bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gleifion ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.