Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiadau a gweithgareddau yng Nghaerdydd a'r Fro i fywiogi'r plant dros wyliau haf yr ysgol

Mae llu o weithgareddau hwyliog yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd a'r Fro drwy gydol gwyliau haf yr ysgol i ddiddanu a bywiogi’r plant.  

Mae'r cyfnod o chwe wythnos bob amser yn amser anodd i gadw rhai bach yn brysur heb eu gosod o flaen y teledu trwy'r dydd neu droi at lechen, ffôn neu ddyfais electronig arall.   

Diolch byth, mae digonedd o ddigwyddiadau rhad ac am ddim a rhai â thâl yn cael eu cynnal gan y ddau awdurdod lleol, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a llawer o rai eraill sy'n addas i bawb.  

Rydym wedi edrych yn fanylach ar y pethau sydd ar y gweill - dan do ac yn yr awyr agored - rhwng diwedd Gorffennaf a dechrau mis Medi, ynghyd â gwybodaeth am sut i fanteisio arnynt.  

Bro Morgannwg  

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi trefnu amrywiaeth o weithgareddau am ddim i blant yr haf hwn, gan gynnwys padlfyrddio, pêl-droed, sglefrfyrddio, dawns, sesiynau aml-chwaraeon a chyn-ysgol.   

Maent yn rhedeg rhwng 25 Gorffennaf a 25 Awst ac yn cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau o amgylch yr awdurdod lleol, gan gynnwys Canolfan Hamdden Penarth, Canolfan Hamdden Llanilltud Fawr, Canolfan Chwaraeon Colcot, Parc Fictoria y Barri a Bryn-y-Don yn Ninas Powys.  

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy'n digwydd a ble, y grwpiau oedran perthnasol a sut i drefnu lle, edrychwch yma. Mae’r system trefnu lle bellach ar agor ond ar gyfer trigolion y Fro yn unig.  

Yn y cyfamser, cynhelir sesiynau chwarae haf mynediad agored am ddim ar draws mis Awst ym mharciau a mannau agored y Fro. Maen nhw'n gyfle i blant rhwng pump a 14 oed roi cynnig ar bethau newydd, gwneud ffrindiau, cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau chwarae a bod yn egnïol.  

Byddant yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol:  

  • 1 i 24 Awst (dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau) - Canolfan Dysgu Oedolion Palmerston yn y Barri — 10am i 12pm ac 1pm i 3pm (Cynllun Chwarae Mynediad Agored)  

  • 1,8, 15 a 22 Awst (Dydd Mawrth) — Stratford Green, Y Barri — 10am i 12pm (Sesiynau Ciwb Chwarae)  

  • 1,8, 15 a 22 Awst (Dydd Mawrth) — Heol Meggitt, Y Barri — 2pm i 4pm (Sesiynau Ciwb Chwarae)  

  • 9, 16 a 23 Awst (dydd Mercher) — Heol Salisbury, Y Barri — 10am i 12pm (Sesiynau Ciwb Chwarae)  

  • 9, 16 a 23 Awst (Dydd Mercher) — Celtic Way, Y Rhws — 2pm i 4pm (Sesiynau Ciwb Chwarae)  

  • 3, 10, 17 a 24 Awst (Dydd Iau) — Sgwâr Plassey, Penarth — 10am i 12pm (Sesiynau Ciwb Chwarae)  

  • 3, 10, 17 a 24 Awst (Dydd Iau) — Heol Caerleon, Dinas Powys — 2pm i 4pm (Sesiynau Ciwb Chwarae)  

Er y gall plant ddod i'r sesiynau mynediad agored hyn, rhaid i rieni/gofalwyr lenwi ffurflen gofrestru chwarae cymunedol ar gyfer pawb sy'n mynychu yma. I gael rhagor o wybodaeth am y gwahaniaethau rhwng Cynlluniau Chwarae Mynediad Agored a Sesiynau Ciwb Chwarae, gwyliwch fideo defnyddiol yma.   

Yn ogystal, ddydd Llun, 31 Gorffennaf, bydd Tîm Datblygu Chwaraeon a Chwarae'r Fro yn cynnal 'Playfully Active' ym Mharc Victoria, Y Barri, rhwng 10 am a 12pm. Bydd yn cynnwys sesiynau gweithgaredd corfforol ar gyfer plant cyn oed ysgol a chyfleoedd chwarae a gweithgareddau i blant rhwng pump a 14 oed.  

Ac i nodi Diwrnod Chwarae Cenedlaethol ddydd Mercher, 2 Awst, mae Tîm Datblygu Chwarae'r Fro a'i bartneriaid wedi trefnu digwyddiad hwyl arbennig i'r teulu yng Nghae Chwarae a Chanolfan Gymunedol Buttrills, y Barri, rhwng 11am a 3pm. Bydd yn cynnwys gweithgareddau adeiladu ffau, celf a chrefft, ceginau mwdlyd a hyd yn oed 'dinas gardbord'.  

Dyma grynodeb o weithgareddau haf eraill sydd ar y gweill yn y Fro:  

22 Gorffennaf i 3 Medi: Haf o Chwarae yng Ngerddi Dyffryn — Bydd gerddi Dyffryn yn llawn cerddoriaeth a chwarae yr haf hwn. Cyfle i archwilio cerddoriaeth yn yr awyr agored, chwarae offerynnau anarferol, gwisgo i fyny a serennu yn eich sioe gerdd eich hun a chymryd rhan mewn gemau hwyliog i'r teulu. Mwy o wybodaeth yma.  

6 Awst: Ras 10K ABP Ynys y Barri i Blant Iau — Dewch i ymuno â'r hwyl yn erbyn cefndir o haul, môr a thywod mewn ras i’r teulu ym Mae Whitmore, y Barri. Mwy o wybodaeth yma.  

9 Awst: Sioe Amaethyddol Bro Morgannwg — Llawer i'w weld a'i wneud i'r teulu cyfan. Ceffylau, gwartheg, cŵn, cwningod, dosbarthiadau plant, cannoedd o dractorau, ffair, sioe BMX anhygoel a defaid yn dawnsio! Mwy o wybodaeth yma.  

Bob dydd Mawrth: Pêl-fas a Phêl-feddal RBI Cymru: Dewch i chwarae pêl-fas a phêl-feddal yng Nghlwb Rygbi'r Barri, CF62 9TH i bob plentyn 12 oed a hŷn. 615pm-7.15pm (pêl-feddal) a 7.15pm-8.15pm (pêl-fas)  

Caerdydd  

Bydd llawer o ysgolion Caerdydd yn cyflwyno'r Rhaglen Gwella Gwyliau'r Haf, Bwyd a Hwyl. Cafodd y rhaglen ei datblygu a'i threialu yng Nghaerdydd yn 2015, ac mae bellach yn cael ei chyflwyno mewn ysgolion ledled Cymru, dan oruchwyliaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'i chefnogi gan Bwyd Caerdydd. Byddant yn cael eu trefnu fesul ysgol i'w disgyblion. Mwy o wybodaeth yma.   

Yn y cyfamser, bydd Hybiau Caerdydd a Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd yn cynnig darpariaeth dros wyliau'r haf a fydd yn cynnwys llu o ddigwyddiadau chwaraeon ac ymarfer corff. Gallwch gael rhagor o wybodaeth amdanynt yma Hybiau Caerdydd/Gwasanaethau Ieuenctid Caerdydd.  

Mae Prifysgol Metropolitan Caerdydd yn cynnal ei gwersylloedd gwyliau chwaraeon poblogaidd rhwng 24 Gorffennaf a 1 Medi. Gellir trefnu lle yn yr holl wersylloedd ar Ap Chwaraeon Met Caerdydd. Mae opsiwn i gymryd rhan yn y gwersylloedd aml-chwaraeon sy'n cynnwys trampolinio, gymnasteg, pêl-rwyd, athletau, rygbi, criced, tenis, pêl-fasged, nofio a gemau. Fel arall, mae yna wersylloedd sy'n benodol i gamp benodol. I gael rhagor o wybodaeth am ddyddiadau, amseroedd a chostau edrychwch yma neu lawrlwythwch Ap Chwaraeon Met Caerdydd. Mae lleoedd yn mynd yn gyflym felly trefnwch le yn gynnar i osgoi cael eich siomi.  

Dyma grynodeb o weithgareddau haf eraill sydd ar y gweill yng Nghaerdydd: 

22 Gorffennaf i 29 Awst: Parc Hwyl i'r Teulu Bae Caerdydd — Mae'r parc hwyl poblogaidd yn mynd yn ôl i Roald Dahl Plass. Bydd yn cynnwys cyfres gyffrous o reidiau ffair a gemau. Mae mynediad am ddim ond mae angen prynu tocynnau ar gyfer pob atyniad. 

22 Gorffennaf i 3 Medi: Rhaffau Uchel CoedLan yn Sain Ffagan — Rhowch gynnig ar 18 rhwystr CoedLan, gan gynnwys trawst cydbwysedd, pont igam-ogam, rhwyd cargo a weiren wib. £15. Rhaid i gyfranogwyr fod o leiaf 110m o daldra. 

22 Gorffennaf i 4 Medi: Hwyl yr haf yn y Senedd — Mae gan y Senedd ardal chwarae sy'n addas i deuluoedd gyda llawer o deganau ar gyfer y rhai bach ac mae ganddi hefyd gaffi ar gyfer oedolion. Mae gan y Senedd lawer o weithgareddau am ddim i'r teulu dros yr haf. Am fwy o wybodaeth ewch i https://senedd.cymru/ymweld-a-ni/ 

27 Awst: Carnifal Haf Llandaf: Ymunwch â Calon Hearts am garnifal haf am ddim a llawn hwyl yn Stryd Fawr Llandaf o 1pm tan 8pm. Bydd Te Parti Dan y Môr hefyd (£15 y pen — ffoniwch 02922 402670 i archebu tocyn). 

Dilynwch ni