Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad seiber yn ymwneud â system Synnovis o fewn rhai o Ymddiriedolaethau GIG Lloegr

Yn gynharach yr wythnos hon, cadarnhaodd GIG Lloegr fod rhywfaint o ddata cleifion wedi’i ddwyn mewn ymosodiad meddalwedd wystlo ar 3 Mehefin.

Cafodd y data, a reolir gan y sefydliad Synnovis sy’n darparu gwasanaethau gwaed i ysbytai a meddygfeydd, ei beryglu a’i amgryptio gan hacwyr o fewn sawl ysbyty mewn dwy o Ymddiriedolaethau GIG Lloegr (Guy’s and St Thomas a King’s College).

Deellir bod yr ymosodiad wedi’i gyflawni gan y grŵp o Rwsia, Qilin.

Ar 20 Mehefin, rhannwyd y data a gasglwyd gan yr hacwyr - a honnir ei fod yn cynnwys gwybodaeth patholeg cleifion - yn gyhoeddus ar y platfform cymdeithasol Telegram. Mae llawdriniaethau ac apwyntiadau wedi’u canslo o fewn y ddwy Ymddiriedolaeth yr effeithiwyd arnynt yn yr wythnosau ers y digwyddiad.

Mae GIG Lloegr wedi bod yn gweithio gyda’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol ers hynny i geisio gwirio cynnwys y ffeiliau sydd wedi’u cyhoeddi ar-lein.

Dywedodd Suzanne Rankin, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Tra bod Synnovis yn dal i ymchwilio i hyd a lled y sefyllfa, bydd yn cymryd amser i ddeall yn llawn yr effaith eang ac a yw wedi effeithio’n andwyol ar gleifion GIG Cymru.

“Hoffwn roi sicrwydd i’r cyhoedd bod dadansoddiad o’r data eisoes ar y gweill gan Synnovis, a bydd gwiriadau diwydrwydd dyladwy yn cael eu cynnal i sefydlu a yw hyn yn cael unrhyw effaith ar gleifion yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.”

Wrth annerch gweithwyr BIP Caerdydd a’r Fro, ychwanegodd: “Hoffwn achub ar y cyfle hwn i atgoffa cydweithwyr o bwysigrwydd cyfrifoldeb personol wrth gadw at brotocolau llywodraethu gwybodaeth, yn benodol gwyliadwriaeth wrth roi gwybod am weithgarwch amheus, fel e-byst gwe-rwydo sy’n cynnwys dolenni amheus gan anfonwyr anhysbys, ac i ymatal rhag rhannu gwybodaeth sensitif, megis manylion mewngofnodi ar gyfer ceisiadau.”

Os ydych chi’n poeni y gallai’r digwyddiad seiber hwn effeithio arnoch chi, cysylltwch â’n Tîm Pryderon. Gellir cysylltu â nhw rhwng 9am a 5pm (dydd Llun i ddydd Gwener) ar 029 2183 6319 neu 029 2074 4095. Gallwch hefyd anfon e-bost at y tîm: Concerns@wales.nhs.uk.

I gael gwybod mwy am y digwyddiad seiber, ewch i wefan GIG Lloegr yma.

Dilynwch ni