Dydd Iau 7 Tachwedd 2023
Oherwydd galw andwyol sylweddol a pharhaus ar wasanaethau, yn enwedig o fewn yr Uned Achosion Brys, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi datgan digwyddiad parhad busnes heddiw.
Beth mae hyn yn ei olygu i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
O ganlyniad i bwysau gweithredol y gaeaf, ynghyd ag argaeledd gwelyau cyfyngedig o ganlyniad i gyfnodau hir cyn rhyddhau cleifion, mae’r Bwrdd Iechyd ar hyn o bryd yn profi oedi digynsail o ran y gwasanaeth ambiwlans.
Mae’r Bwrdd Iechyd yn parhau i weithio ar y cyd â chydweithwyr o’r Awdurdodau Lleol i gefnogi’r broses o ryddhau cleifion sy’n ffit yn feddygol i’w cartrefi.
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw amhariad ar apwyntiadau dewisol a chlinigol sy’n parhau i weithredu fel arfer, fodd bynnag, bydd y Bwrdd Iechyd yn adolygu’r sefyllfa’n gyson a bydd yn cyhoeddi diweddariadau ar y sefyllfa drwy gydol y dydd.
Beth mae hyn yn ei olygu i’r cyhoedd
Er mwyn cefnogi cydweithwyr i flaenoriaethu gofal ac anghenion uniongyrchol cleifion sydd angen sylw meddygol brys, rydym yn apelio ar aelodau’r cyhoedd o fewn y cymunedau i ddefnyddio’r gwasanaethau’n briodol.
Bu cynnydd yn ddiweddar yn nifer y cleifion sy’n dod i’r adran â phroblemau meddygol hirsefydlog y gellir eu rheoli’n effeithiol y tu allan i’r uned achosion brys a/neu ysbyty.
Dewch i’r Uned Achosion Brys os ydych chi’n profi’r canlynol yn unig:
Os nad yw eich cyflwr yn bygwth bywyd a’ch bod yn teimlo’n sâl neu’n ansicr o’ch symptomau ewch i Wiriwr Symptomau GIG 111 Cymru am gefnogaeth bellach. Fel arall, ffoniwch 111 lle bydd eich cyflwr yn cael ei asesu a chynigir amser apwyntiad i chi (lle bo angen). Eich meddyg teulu yw eich Dewis Sylfaenol ar gyfer cyflyrau meddygol hirdymor y mae angen eu hadolygu. Mae gan bob aelod o’r tîm gofal sylfaenol sgiliau ac arbenigedd mewn gwahanol feysydd, sy’n eich galluogi i gael y cymorth iawn, gan y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol iawn, y tro cyntaf.
Gall eich fferyllfa gymunedol hefyd helpu drwy roi cyngor a meddyginiaeth dros y cownter.
Byddwch yn amyneddgar ac yn barchus i gydweithwyr sy’n gweithio o dan bwysau digynsail i ofalu am gleifion yn ystod y cyfnod heriol hwn.