Neidio i'r prif gynnwy

30 Rhagfyr 2022

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cynnal dau ddigwyddiad recriwtio ar yr un pryd ar 11 Ionawr blwyddyn nesaf, gan arddangos rolau ar gyfer nyrsys, bydwragedd, yn ogystal â Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd (HCSW). Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng Cochrane Building, Ysbyty Athrofaol Cymru.

Nyrsys a Bydwragedd

I’r rhai sy’n mynychu’r digwyddiad Nyrsys a Bydwragedd sydd â diddordeb mewn dychwelyd i ymarfer drwy Lwybr Prawf Cymhwysedd y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, anfonwch e-bost at nurse.recruitment.cav@wales.nhs.uk i drefnu eich lle ar gyfer y digwyddiad.

Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd

I’r rhai sy’n mynychu’r digwyddiad Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd yn sgil eu diddordeb yn y swydd Ymarferydd Cynorthwyol Band 4/Ymarferydd Cynorthwyol dan Hyfforddiant, cyfeiriwch at y meini prawf isod sy’n berthnasol i’r rolau hyn:

  • Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd (HCSW) profiadol sydd â Thystysgrif Addysg Uwch ar gyfer HCSW.
  • HCSW sydd wedi cwblhau blwyddyn gyntaf neu ddwy flynedd gyntaf y rhaglen nyrsio cyn cofrestru ond nad oedd yn gallu cwblhau blwyddyn 3.
  • Nyrs gofrestredig sydd heb gofrestru gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) mwyach.
  • Nyrs sydd wedi’i hyfforddi’n rhyngwladol heb gofrestriad NMC.
  • Ymarferydd Cynorthwyol/Nyrs sydd wedi cymhwyso’n llawn.

Os ydych yn bodloni unrhyw un o’r meini prawf uchod, e-bostiwch nurse.recruitment.cav@wales.nhs.uk i drefnu eich lle ar gyfer y digwyddiad hwn.

Bydd y rhai sy’n mynychu’r digwyddiad yn gallu ymweld â stondinau a siarad â rheolwyr am yr amrywiaeth o gyfleoedd nyrsio sydd ar gael.

Bydd aelodau o’n tîm yn bresennol i roi cyngor ar dechnegau cyfweliad a cheisiadau am swyddi, yn ogystal â rhannu eu profiadau o weithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Mae’r swyddi sydd ar gael yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhai a ddangosir yn yr adran swyddi ar ein gwefan. Cynhelir y digwyddiad yng Cochrane Building, Ysbyty Athrofaol Cymru.ar 11 Ionawr 2022, 5pm – 8pm. Dewch draw i ddysgu beth sydd gennym i’w gynnig. Edrychwn ymlaen at eich croesawu.