7 Tachwedd 2024
Cafodd cleifion fynediad digynsail at asesiadau a chyngor iechyd am ddim mewn digwyddiad cymunedol arbennig ym Mhenarth.
Cynhaliwyd Digwyddiad Ffordd Iach o Fyw Dwyrain y Fro, a ddisgrifiwyd fel “siop un stop ar gyfer eich iechyd a’ch lles”, yng Nghanolfan Hamdden Penarth, Cogan, ddydd Sadwrn, 26 Hydref.
Gallai’r rhai a oedd yn bresennol siarad ag arbenigwyr lleol am gadw’n iach a chael mynediad at wasanaethau a fyddai fel arfer angen atgyfeiriad gan feddyg teulu. Cawsant hefyd y cyfle i gael prawf pwysedd gwaed, lefelau colesterol a siwgr yn y gwaed – a rhoddwyd y canlyniadau ar y diwrnod.
Roedd sawl sefydliad yn bresennol, gan gynnwys:
Roedd y digwyddiad hefyd yn hwyl i’r teulu cyfan ac roedd gweithgareddau megis castell bownsio, chwarae meddal a phaentio wynebau i’r plant.
Dywedodd Dr Chris Matthews, Meddyg Teulu a Chyfarwyddwr Cymunedol/Arweinydd Clwstwr ar gyfer Ardal Dwyrain y Fro: “Rydym yn deall nad yw bob amser yn hawdd gweld eich meddyg teulu, optegydd neu nyrs gymunedol. Am y rheswm hwn, fe wnaethom ddylunio digwyddiad gyda’r nod o roi mynediad i gleifion at wasanaethau a gweithgareddau i’w cadw’n iach.
“Yn y digwyddiad, roedd cyfle gan bobl i sgwrsio ag arbenigwyr lleol am gadw’n iach, cael mynediad at wasanaethau a fyddai fel arfer angen atgyfeiriad gan feddyg teulu ar eu cyfer, yn ogystal â chael profi eu pwysedd gwaed, lefelau colesterol a siwgr yn y gwaed.
“Ein nod yw atal iechyd gwael cyn iddo gyrraedd y man hwnnw a helpu pobl i deimlo ar eu gorau unwaith eto. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, ac rydym yn gobeithio trefnu mwy yn y dyfodol agos.”
Ar y diwrnod, roedd pawb a oedd dros 18 oed ac wedi cofrestru gyda Phartneriaeth Gofal Iechyd Penarth, Practis Meddygol Dinas Powys neu Feddygfa Redlands yn gallu cael mynediad at wasanaethau a fyddai fel arfer angen atgyfeiriad gan feddyg teulu.
Dywedodd pawb a fynychodd ac a lenwodd holiadur adborth y byddent yn mynychu digwyddiadau tebyg yn y dyfodol. Dywedodd dwsinau o bobl y byddent yn gwneud newidiadau i’w ffordd o fyw yn sgil y gwiriadau iechyd a gawsant.
Ychwanegodd y trefnwyr: “Hoffem gydnabod y sefydliadau a’r unigolion ymroddedig a roddodd o’u hamser yn anhunanol i wirfoddoli neu gynnal stondin. P’un a oeddent yn helpu gyda’r gwaith gosod, cofrestru, arolygon, profion clinigol, atgyfeirio neu lanhau, roedd gan bob un rôl hanfodol.
“Fe wnaeth eraill gyfrannu at y raffl a’r bagiau tote, helpu gyda chyfathrebu a chaffael neu gynnig cyngor clinigol neu lywodraethol.”