Neidio i'r prif gynnwy

Digwyddiad arbennig i nodi Diwrnod Beicio i'r Gwaith ddydd Iau yma

Mae Diwrnod Beicio i’r Gwaith, digwyddiad mwyaf y DU i hyrwyddo cymudo ar feiciau, yn ôl ddydd Iau, 3 Awst. 

P’un ai nad ydych erioed wedi beicio o’r blaen, heb feicio ers sbel, neu’n beicio bob dydd, mae Diwrnod Beicio i’r Gwaith ar eich cyfer chi. Mae'n ddiwrnod i fynd ar gefn eich beic a phrofi'r manteision y mae beicio bob dydd yn eu cynnig – yn feddyliol, yn gorfforol ac yn ariannol. 

I nodi’r diwrnod, mae FOR Cardiff (yr ardal gwella busnes yng Nghaerdydd) yn cynnal digwyddiad arbennig yn y Sgwâr Canolog gyda dewis gwych o stondinau ac arddangoswyr y mae’n bosib y byddwch chi neu’ch cydweithwyr yn dymuno ei fynychu. 

Cynhelir y digwyddiad rhwng 11am a 2pm ddydd Iau, 2 Awst ac mae'r gweithgareddau a gadarnhawyd hyd yma yn cynnwys:  

  • Marcio beiciau am ddim gyda Heddlu De Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydain 

  • Gwasanaeth cynnal a chadw beiciau am ddim gyda Dr Bike 

  • Pedal Power – arddangos  treiciau a gwybodaeth am gynlluniau Beicio i'r Gwaith y Cynllun Beicio  a'r Fenter Cymudo Gwyrdd 

  • Bydd Ovo Bikes yn dod â beiciau i roi cynnig arnynt ac yn rhoi gwybodaeth am eu cynigion corfforaethol a'u haelodaeth 

  • Beiciau Cargo Caerdydd – arddangos beiciau cargo a threlars 

  • Cwmni Beiciau Trydan – arddangos beiciau trydan 

  • Sustrans 

Nid yw erioed wedi bod yn haws beicio i'r gwaith. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ynghyd â’n dau awdurdod lleol, yn gweithio’n galed i sicrhau bod cymudo llesol yn haws ac yn fwy diogel nag erioed o’r blaen.  

Mae llwybr beicio integredig newydd sy'n cysylltu canol dinas Caerdydd ag Ysbyty Athrofaol Cymru bellach wedi'i gwblhau. Mae’r llwybr 3km, sy’n cymryd tua 15 munud i’w feicio, wedi’i wahanu’n llwyr oddi wrth draffig felly nid oes angen i chi boeni am rannu’r ffordd â cherbydau. Gellir cael rhagor o wybodaeth yma

Yn ogystal, mae’r bwrdd iechyd yn cynnal cynllun Beicio i’r Gwaith i annog gweithwyr i reidio beic i’r gwaith er mwyn helpu i leihau tagfeydd a llygredd amgylcheddol.  

Mae'r cynllun buddion gweithwyr a gefnogir gan y llywodraeth yn galluogi cydweithwyr i arbed arian a gwasgaru cost beic newydd ar gyfer cymudo i'r gwaith ac adref. Mae'n cael ei redeg trwy gynllun aberthu cyflog felly nid ydych yn talu treth nac Yswiriant Gwladol ar gost beic ac ategolion newydd - sy’n golygu eich bod yn arbed rhwng 32% a 42%.  

Mae'r cynllun yn rhedeg drwy'r flwyddyn fel y gall cydweithwyr archebu beic ar unrhyw adeg. Cyn belled â bod yr aelod o staff yn gyflogai yn BIP Caerdydd a'r Fro (ac ar ein cyflogres), ac nad yw'r didyniadau yn mynd â'r aelod o staff o dan yr isafswm cyflog, yna byddent yn gallu cymryd rhan. Ceir rhagor o fanylion yma.  

I gael rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Beicio i'r Gwaith, ac am gyfle i ennill gwobrau, edrychwch yma

Dilynwch ni