Neidio i'r prif gynnwy

Diffibrilwyr gwisgadwy ar gyfer rhai oedolion sydd mewn perygl o farwolaeth cardiaidd sydyn yr argymhellir eu mabwysiadu yng Nghymru

6 Gorffennaf 2023

Gall pobl yng Nghymru sydd mewn perygl o'u calon yn stopio'n sydyn, gael eu gosod â diffibrilwyr y gellir eu gwisgo, yn dilyn canllawiau newydd gan Technoleg Iechyd Cymru. 

Mae diffibrilwyr cardiaidd y gellir eu gwisgo yn monitro rhythm y galon yn barhaus, ac yn rhoi sioc drydanol yn awtomatig o fewn un munud pan fydd rhai rhythmau calon afreolaidd yn cael eu canfod. 

Maen nhw’n cael eu gwisgo fel fest yn erbyn y croen, a gellir eu defnyddio fel mesur dros dro yn ystod cyfnod adfer neu cyn triniaeth ysbyty pellach. Dim ond pan fydd y gwisgwr yn ymolchi y dylid tynnu'r dyfeisiau i ffwrdd.  

Gall cleifion fynd â nhw adref i fonitro eu cyflwr, sy'n golygu efallai na fydd angen iddyn nhw aros yn yr ysbyty yn ystod cyfnod adfer neu wrth aros am feddyginiaeth i weithio neu i osod diffibriliwr cardiaidd wedi ei fewnblannu (ICD). 

Edrychodd Technoleg Iechyd Cymru am dystiolaeth ar yr effeithiolrwydd a’r effeithiolrwydd o ran cost o ddefnyddio diffibrilwyr cardiaidd y gellir eu gwisgo,  ac mae wedi cyhoeddi canllaw sy'n argymell mabwysiadu'r ddyfais i rai cleifion sy’n oedolion. 

Dywedodd yr Athro Peter Groves, Cadeirydd Technoleg Iechyd Cymru a Chardiolegydd Ymyriadol Ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru: "Rydym yn gobeithio y bydd cyhoeddi ein canllaw cenedlaethol sy'n argymell defnyddio diffibrilwyr cardiaidd yn rheolaidd, yn cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl sydd mewn perygl o farw’n sydyn ar draws Cymru oherwydd problemau’r galon. 

"Bydd y dechnoleg arloesol hon yn galluogi mwy o gleifion i ddychwelyd adref wrth aros am driniaeth bellach a fydd yn gwella ansawdd eu bywydau, ac yn rhoi sicrwydd ychwanegol bod eu cyflwr yn cael ei fonitro'n ddiogel."   

Ychwanegodd Dr Susan Myles, Cyfarwyddwr HTW: "Ein rôl fel sefydliad asesu technoleg iechyd, yw nodi ac arfarnu technolegau iechyd a gofal arloesol sydd â'r potensial i newid bywydau yng Nghymru, ac mae diffibrilwyr cardiaidd yn enghraifft wych o hynny. 

"Byddem yn annog unrhyw un sydd â syniad am dechnoleg iechyd neu ofal y gallem ei arfarnu, i gysylltu â ni drwy ein gwefan -  healthtechnology.wales.  

I ddarllen yr arweiniad yn llawn cliciwch yma 

Dilynwch ni