Mae dail y coed yn troi'n oren a melyn hardd ar draws ein safleoedd ysbytai, sy'n golygu ein bod ni'n mynd nesáu at ein hamser prysuraf o'r flwyddyn. I helpu i gadw'ch hun ac eraill yn iach wrth i'r tymhorau newid, dyma ychydig o gamau syml y gallwch eu cymryd:
Gall symptomau’r ffliw fod yn ysgafn ond gallant hefyd arwain at afiechydon mwy difrifol fel broncitis a niwmonia (heintiau'r ysgyfaint), a allai fod angen triniaeth yn yr ysbyty. Yn ystod gaeaf arferol, bydd miloedd o bobl yn marw o salwch sy’n gysylltiedig â’r ffliw ar draws y DU. Cael brechlyn ffliw bob blwyddyn yw un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o amddiffyn rhag y ffliw. Am wybodaeth am raglen brechlyn ffliw’r, ewch i'ch yma.
Gall rhywbeth mor syml yn eich trefn ddyddiol â golchi dwylo’n dda ac yn rheolaidd wneud gwahaniaeth. Atal germau rhag trosglwyddo oddi wrthych chi i'ch anwyliaid yw un o'r ffyrdd hawsaf o atal afiechydon rhag lledaenu y gaeaf yma. Y canllawiau gofal iechyd a argymhellir ar gyfer golchi dwylo’n dda yw 30 eiliad gan ddefnyddio sebon a dŵr (neu, os nad yw ar gael, hylif diheintio dwylo), a gall yr amser ychwanegol a gymerir fod yn effeithiol wrth ladd germau ac atal haint rhag lledaenu.
Y cam mwyaf effeithiol y gallwn ei gymryd i helpu i gadw ein hunain yn iach yw mabwysiadu ffordd iach o fyw. Mae llawer o fanteision i fyw bywyd iachach. Rydym yn gwybod bod bwyta’n dda, rhoi’r gorau i ysmygu, cadw’n egnïol ac yfed o fewn y canllawiau a argymhellir i gyd yn cyfrannu at ein hiechyd a’n llesiant cyffredinol, ac yn lleihau’r risg o lawer o gyflyrau iechyd. Bydd Cadw F'in Iach wefan hon yn helpu i gefnogi eich iechyd a’ch lles.
Helpa Fi i Stopio yw’r gwasanaeth rhoi’r gorau i smygu cenedlaethol yng Nghymru. Mae Helpa Fi i Stopio yn grymuso unigolion i gymryd rheolaeth dros eu hiechyd a thorri’n rhydd o afael caethiwus tybaco. Mae Helpa Fi i Stopio yn helpu miloedd o smygwyr yng Nghymru bob blwyddyn i gyflawni eu nod o fyw yn ddi-fwg.