Neidio i'r prif gynnwy

Deietegydd ysbrydoledig gyda bron i bedwar degawd o brofiad yn ymddeol

6 Mehefin 2024

Mae deietegydd arobryn a ddisgrifiwyd fel un sydd wedi gwneud cyfraniad “amhrisiadwy” i’r proffesiwn wedi ymddeol.

Cafodd Pennaeth Deieteg, Helen Nicholls, deietegydd ers 37 o flynyddoedd, 26 ohonynt gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ei chanmol am ei harweinyddiaeth dosturiol a rhagorol.

Ymhlith ei llwyddiannau niferus oedd ennill Gwobr Arweinyddiaeth Glinigol AHP yng Ngwobrau Hyrwyddo Gofal Iechyd y DU ym mis Ebrill 2024, ychydig ddyddiau cyn ei hymddeoliad.

“Mae gweledigaeth Helen ar gyfer deieteg gymunedol BIP Caerdydd a’r Fro wedi arwain at wella ansawdd a maint yr adran,” meddai llefarydd o Dîm Deieteg y Bwrdd Iechyd.

“Arweiniodd tîm rhagweithiol yn fedrus, gan gynyddu’r tîm o saith deietegydd i 93 aelod o staff sydd, ochr yn ochr â deietegwyr, bellach yn cynnwys nyrsys maeth, seicolegwyr ac ymarferwyr cynorthwyol.

“Mae ei hymrwymiad a’i gwydnwch i arwain wedi bod yn amlwg i’r holl staff sydd wedi gweithio gyda hi ac wedi arwain ati hi’n symud o fod yn arweinydd strategol ar gyfer deieteg gymunedol i gael ei phenodi’n Bennaeth Maeth a Deieteg y Bwrdd Iechyd yn 2022.”

Cafodd Helen ei chanmol gan gyfarwyddwyr clinigol am ei hagwedd “gallu gwneud” tuag at bopeth mae’n ei wneud. Mae hi hefyd wedi gwneud cyfraniad sylweddol at newid a gwella gwasanaethau drwy weithredu gwasanaethau rheoli pwysau plant ac oedolion, a thimau adnoddau cymunedol.

“Mae angerdd arbennig Helen dros ofal diabetes wedi sicrhau rhagoriaeth a safon aur ar draws y gwasanaethau diabetes, gan ddeall y gwahaniaeth y mae hyn yn ei wneud i ansawdd bywyd pobl,” ychwanegodd llefarydd y Tîm Deieteg.

“Mae ei hegni a’i hymrwymiad wedi bod yn ganolog i sefydlu rhaglenni addysg diabetes a Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan sydd bellach yn weithredol ym mhob un o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru.”

Mae Llywodraeth Cymru ac uwch grwpiau arweinyddiaeth wedi galw ar Helen i rannu ei harbenigedd a’i gwybodaeth am weithio ar draws y system, i ddatblygu polisïau a strategaethau ledled Cymru, gan hybu gwasanaethau sy’n cynnwys atal hyd at ymyriadau arbenigol.

“Mae enw da Helen yn hysbys i bawb, ac mae hi’n uchel ei pharch ymhlith adrannau therapïau a’r Bwrdd Iechyd ehangach. Roedd hi’n arweinydd tosturiol ac roedd ei chyfraniad at ddeieteg yn amhrisiadwy - bydd colled fawr ar ei hôl.”

Dilynwch ni