27 Tachwedd 2023
Yn rhedeg o 27 Tachwedd i 11 Rhagfyr, mae’r ymgyrch Defnyddiwch eich Cymraeg yn annog pobl ledled Caerdydd a’r Fro i ddefnyddio’u Cymraeg mewn unrhyw sefyllfa a allant.
P’un a ydych yn defnyddio’ch Cymraeg mewn sgwrs lawn gyda rhywun mewn siop goffi, neu ddim ond yn dymuno ‘bore da’ i gydweithiwr, dylid annog a chefnogi pobl ledled Cymru i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd, ni waeth ble mae hynny, a beth bynnag fo'u gallu.
Mae defnyddio'r Gymraeg hefyd yn chwarae rhan hanfodol o fewn gofal iechyd. I rai cleifion, y Gymraeg yw eu hiaith ddewisol a/neu iaith gyntaf, a thrwy siarad Cymraeg, gall hyn gyfrannu’n sylweddol at wella ansawdd eu gofal a deall eu dymuniadau a’u hanghenion yn fwy cywir. Mae darparu gofal yn iaith gyntaf y claf yn gwella canlyniadau cleifion.
Rhowch gynnig arni yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf a rhowch gynnig ar rai o’r ymadroddion isod y tro nesaf y byddwch allan: